Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae ein hadnodd data'n dangos effaith y pandemig ar gyllid y GIG a chyflwr ariannol presennol cyrff y GIG
Ar ôl cynnydd digynsail mewn cyllid o £1.8 biliwn yn 2020-21 (cynnydd o 14.3% mewn termau real), cafodd gwasanaethau iechyd yng Nghymru ddyrchafiad o 0.2 biliwn (cynnydd mewn termau real 2% ) yn 2021-22. Methodd tri o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru â chyrraedd eu dyletswydd ariannol i fantoli’r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd. Fodd bynnag, mewn blwyddyn o bwysau sylweddol, mae'r diffyg ariannol o fewn blwyddyn ar draws GIG Cymru wedi aros yn weddol sefydlog.
Mae wedi bod yn flwyddyn arall lle mae galw mawr ar GIG Cymru. Mae effaith barhaus COVID-19 a chynnydd sylweddol mewn cleifion sy'n aros am driniaeth wedi cadw'r GIG o dan bwysau cyson.
Er gwaethaf y cyllid uwch, erys gorwariant ar draws GIG Cymru. Fe fethodd byrddau iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, Bae Abertawe a Hywel Dda unwaith eto i gyrraedd eu dyletswydd i fantoli’r gyllideb, hyd yn oed dros gyfnod o dair blynedd. Fodd bynnag, yn erbyn cefndir o bwysau sylweddol, roedd cyfanswm y diffyg yn y flwyddyn yn eithaf statig ar £47.4 miliwn (£47.9 miliwn yn 2020-21) a'r gwariant cronnus tair blynedd ar draws y GIG wedi gostwng o £233 miliwn i £184 miliwn.
Mae cyrff y GIG yn parhau i gadw golwg ar wariant cysylltiedig â COVID-19. Mae eu ffurflenni dychwelyd misol i Lywodraeth Cymru yn dangos eu bod wedi gwario £0.88 biliwn net ychwanegol yn 2021-22 oherwydd COVID-19, gostyngiad o 25% ar y £1.1 biliwn a adroddwyd ar gyfer 2020-21. O'r £0.88 biliwn hwn, roedd mannau gwario penodol yn cynnwys £0.27 biliwn ar frechu, olrhain a phrofi, £0.06 biliwn ar offer diogelu personol a £0.05 biliwn ar gapasiti ysbytai maes/ymchwydd. Roedd cyflogau staff oherwydd gweithgaredd cysylltiedig â COVID-19 yn £0.4 biliwn, ac roedd £0.03 biliwn o hyn ar staff asiantaeth. Dim ond cyfran fechan o wariant staff asiantaeth yw hyn yn 2021-22, a welodd gynnydd o 23% o'r flwyddyn flaenorol i £0.27 biliwn ledled GIG Cymru yn y brif ran yn talu am swyddi gwag parhaus y gweithlu.
Yn gadarnhaol, mae arbedion a adroddwyd yn cynyddu o'r flwyddyn flaenorol, ond mae cyfran gynyddol yn cael eu darparu drwy gamau untro fel oedi gwariant yn hytrach na gyrru effeithlonrwydd.
Bydd cynllunio strategol yn allweddol i sicrhau trawsnewidiad yn y GIG ac mae cyrff nawr yn symud yn ôl at gynllunio mwy hirdymor o'r cynlluniau blynyddol mwy ystwyth a ddefnyddiwyd yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf. I'r cyrff hynny sydd heb lunio cynlluniau sydd wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru hyd yma, gallai hyn fod yn her sylweddol.
Mae'r data hwn ynghyd â manylion pellach wedi'i nodi mewn offeryn data newydd [agorir mewn ffenestr newydd] a gyhoeddir heddiw.
Yng nghyd-destun y pandemig parhaus a’r angen ymateb i bwysau gwasanaeth digynsail, roedd lefelau uchel o gyllid yn parhau i fod ar gael i'r GIG yng Nghymru yn 2021-22. Mae cyrff y GIG wedi wynebu'r her o ddefnyddio'r arian yna i ymateb i bwysau gwasanaethau ar unwaith a hefyd i ddechrau adfer ac ail-lunio gwasanaethau i fynd i'r afael ag ôl-groniadau a phatrymau galw newydd. Rhaid i'r ffocws ar adfer ac ailfodelu barhau i'r flwyddyn bresennol a thu hwnt ond mae ein data'n cyfeirio at heriau gyda'r gweithlu fel y tystia gwariant cynyddol ar staffio asiantaeth, a’r angen i ddatblygu dull mwy strategol o drawsnewid gwasanaethau. Wrth i frig cyllid COVID ychwanegol lleihau, bydd angen i gyrff y GIG ddefnyddio'r broses gynllunio tymor canolig wedi'i adfer i osod llwybr cynaliadwy yn ariannol i adfer gwasanaethau a moderneiddio.