Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Penodi Ann-Marie Harkin yn Gyfarwyddwr Gweithredol yn Archwilio Cymru

22 Chwefror 2021
  • Canfuwch fwy am ein penodiad newydd

    Mae Ann-Marie Harkin wedi’i phenodi yn Gyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio yn Archwilio Cymru.

    Bydd Ann-Marie yn arwain y gwaith o gyflawni rhaglen helaeth Archwilio Cymru o waith archwilio ariannol a pherfformiad ynghyd â sicrhau cyflawniad gweithredol ac ansawdd gwaith archwilio.

    Mae Ann-Marie wedi gweithio ym maes archwilio proffesiynol drwy gydol ei gyrfa. Ymunodd â Swyddfa Archwilio Cymru pan ffurfiwyd yn 2005 ac ar hyn o bryd hi yw'r Cyfarwyddwr Archwilio Ariannol a'r Arweinydd Ymgysylltu ar nifer o gyfrifon gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, Comisiwn y Senedd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn ogystal ag arwain ein cynlluniau hyfforddeion a phrentisiaid arobryn. Yn 2016 enillodd Ann-Marie wobr Merched Mewn Arweinyddiaeth yng Ngwobrau Arwain Cymru.

    Cyn hyn, Ann-Marie oedd Ysgrifennydd Preifat Archwilydd Cyffredinol cyntaf Cymru ac roedd yn rhan o sefydlu swyddfa Archwilydd Cyffredinol Cymru ym Mae Caerdydd ac o sefydlu arferion a gweithdrefnau gwaith effeithiol i gefnogi Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad Cenedlaethol. Ar ôl tair blynedd yn y swydd hon, daeth yn Rheolwr, yn rheoli archwiliadau ar gyfer y Cyngor Chwaraeon, Cyngor y Celfyddydau, y DVLA ac elusennau amrywiol.

    ,
    Rwyf wedi cyffroi yn fawr ynglŷn â’r cyfle hwn. Mae Archwilio Cymru yn sefydliad gwych, ac rwy’n falch o ymgymryd â'r swydd hon ar adeg mor dyngedfennol i Wasanaethau Cyhoeddus. Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, rwy’n edrych ymlaen at fynd allan a chwrdd â chynifer o'n rhanddeiliaid allweddol â phosibl. Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio
    ,
    Mae'r broses recriwtio ar gyfer y swydd hon wedi bod yn helaeth ac yn drylwyr, a chafwyd ymgeiswyr ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ac o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau proffesiynol. Roedd yr em yr oeddem yn chwilio amdani o dan ein trwynau wedi’r cyfan. O’r holl ymgeiswyr a ddaeth i'r amlwg drwy'r broses, safodd Ann-Marie allan o ran ei hegni a'i hangerdd dros Archwilio Cymru, eglurder ei gweledigaeth ar gyfer y swydd, ei chymysgedd o brofiad ac arbenigedd perthnasol a’r ffordd y mae’n gweddu i weddill yr uwch dîm newydd. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
    ,

    Bydd Ann-Marie yn dechrau ei swydd newydd ym mis Mawrth 2021.