Prif bwyntiau o weminar ICAEW ar lywodraethu da yn y sector cyhoeddus

16 Chwefror 2021
  • Ar 26 Ionawr, ymunodd ein Harchwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, â Chyfarwyddwr Sector Cyhoeddus y DU ICAEW, Alison Ring OBE FCA, ar gyfer gweminar a gynhaliwyd gan ICAEW ynghylch sut y gall Cyfarwyddwyr Anweithredol chwarae rhan yn y gwaith o wella llywodraethu yn y sector cyhoeddus.

    Dechreuodd y weminar gyda chyflwyniad byr gan Adrian ac fe'i dilynwyd gan sesiwn holi ac ateb rhwng Adrian ac Alison.

    Siaradodd Adrian am:

    • Swyddogaeth Archwilio Cymru
    • Safbwynt Archwilio Cymru ar natur yr heriau presennol i'r sector cyhoeddus a pham y mae llywodraethu da yn hanfodol
    • Sut y gall Cyfarwyddwyr Anweithredol gyfrannu at lywodraethu effeithiol a sut y gallai ein gwaith fod yn ddefnyddiol i Gyfarwyddwyr Anweithredol

    Swyddogaeth Archwilio Cymru

    Yn ei sylwadau agoriadol, soniodd Adrian yn gyntaf am ei swyddogaeth ef a swyddogaeth Archwilio Cymru, ac am yr hyn yr ydym yn canolbwyntio arnynt, a nodir yn ein Cynllun Blynyddol 2020-21 [yn agor mewn ffenest newydd] sef:

    • Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda
    • Egluro sut y mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion pobl
    • Ysbrydoli a grymuso’r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella

    Heriau Cyfredol

    Aeth Adrian ymlaen i siarad am yr heriau presennol sy'n wynebu'r sector cyhoeddus, ac nid yw’n syndod bod pandemig Covid 19 ar frig y rhestr honno. Soniodd am yr ymdrech aruthrol ar y cyd rhwng timau archwilio a chyrff archwiliedig a arweiniodd at gymeradwyo'r mwyafrif helaeth o gyfrifon 2019-20 yn unol ag amserlen ddiwygiedig Llywodraeth Cymru.

    O ran Gwerth am Arian, soniodd Adrian am yr angen i newid canolbwynt a phwyslais ein gwaith er mwyn osgoi effeithio ar ddarpariaeth rheng flaen ac edrych ar faterion sy'n codi o'r pandemig. Yn benodol, soniodd am ein Gwaith Dysgu Covid [yn agor mewn ffenest newydd] a’r arferion da yr ydym wedi’i weld, a'r gwersi a nodwyd, drwy'r gwaith hwnnw. Soniodd hefyd am ein gwaith yn edrych ar Gaffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19 [yn agor mewn ffenest newydd] a’r adroddiad Ei Wneud yn Wahanol, Ei Wneud yn Iawn [yn agor mewn ffenest newydd] a gyhoeddwyd yn ddiweddar a oedd yn edrych ar lywodraethu yn y GIG yn ystod argyfwng COVID-19.

    Siaradodd Adrian hefyd am heriau eraill sy'n wynebu'r sector cyhoeddus ar hyn o bryd gan gynnwys Brexit, yr argyfwng hinsawdd, gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, yr heriau economaidd-gymdeithasol uniongyrchol sy'n ein hwynebu yng Nghymru ac ymateb i'r cyfleoedd a'r bygythiadau sy’n cael eu hachosi yn sgil datblygiadau mewn technoleg gwybodaeth. Mae ein hymateb i'r materion hyn a materion eraill wedi’u nodi yn ein Cynllun Blynyddol 2020-21[yn agor mewn ffenest newydd].

    Sut y gall Archwilio Cymru Gefnogi Cyfarwyddwyr Anweithredol

    Yna trodd Adrian at ffyrdd y gall Archwilio Cymru gefnogi Cyfarwyddwyr Anweithredol. Roedd y rhain yn cynnwys:

    • deialog barhaus rhwng timau archwilio lleol gyda phwyllgorau archwilio a phwyllgorau craffu eraill;
    • ein hadroddiadau mewn cyrff unigol, ein Gwaith Arferion Da a'n hadroddiadau crynhoi ar draws sectorau sy'n adlewyrchu ein persbectif unigryw ar draws y Sector Cyhoeddus yng Nghymru;
    • ein defnydd o offer dadansoddi data, gan edrych er enghraifft ar gynaliadwyedd ariannol ar draws llywodraeth leol a chyfres o astudiaethau'r GIG;
    • defnyddio ffeithluniau i roi cipolwg ar ein gwaith; a
    • gweithio gyda chyrff – o fewn ffiniau ein hannibyniaeth – i gefnogi hyfforddiant sefydlu a hyfforddiant datblygu arall.

    Swyddogaeth y Cyfarwyddwyr Anweithredol

    Wrth gloi, soniodd Adrian am swyddogaeth Cyfarwyddwyr Anweithredol, y cyfleoedd eang i gymryd rhan ym maes Cyfarwyddwyr Anweithredol a swyddogaethau tebyg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a sut y gall Cyfarwyddwyr Anweithredol gefnogi llywodraethu effeithiol.

    Tynnodd Adrian sylw at y swyddogaeth hanfodol y mae Cyfarwyddwyr Anweithredol cryf a galluog yn ei chwarae wrth gefnogi cyrff cyhoeddus sy'n perfformio'n dda a nododd y gellir olrhain llawer o'r gwendidau y mae wedi'u gweld o ran rheoli arian cyhoeddus yn ôl i wendidau yng ngwaith llywodraethu a goruchwylio’r Bwrdd.

    Yna, crynhodd nifer o nodweddion y mae wedi'u gweld mewn Cyfarwyddwyr Anweithredol effeithiol, gan gynnwys:

    • dealltwriaeth dda o swyddogaeth Cyfarwyddwr Anweithredol a'r sefydliad y mae'r Cyfarwyddwr Anweithredol yn ei gefnogi;
    • rhoi gwelededd i'r sefydliad a’r gallu i weld y prif heriau y mae'n eu hwynebu; a’r
    • rhinweddau personol cywir, gan gynnwys y gallu i ymrwymo, brwdfrydedd, meddwl annibynnol a chwestiyngar a pharodrwydd i weithio gyda swyddogion gweithredol i ddatblygu perthynas agored ac effeithiol.

    Gan dynnu ar brofiad o’i yrfa gyfan, daeth Adrian i'r casgliad bod llywodraethu da yn seiliedig ar egwyddor, yn hytrach na chydymffurfiaeth. Mae gweld Cyfarwyddwyr Anweithredol ac eraill mewn swyddi arwain yn arddangos ymddygiadau cywir yn bersonol yn bwysicach o lawer na phroses a phensaernïaeth sefydliadol wrth gefnogi diwylliant llywodraethu iach.

    Gellir cael gafael ar recordiad o'r weminar yn rhad ac am ddim yn: Pwysigrwydd llywodraethu da yn y sector cyhoeddus [yn agor mewn ffenest newydd].

    Er mwyn gweld y weminar efallai y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif gyda’r ICAEW.