Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r Cyngor wedi gweithredu i wella’i drefniadau llywodraethu a’i brosesau penderfynu er bod angen llawer o waith o hyd
Roedd materion a ganfuwyd yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru er budd y cyhoedd yn cynnwys methiant i fynd i’r afael ag anawsterau mewn perthnasoedd rhwng aelodau a swyddogion a datrys yr anawsterau hynny, diystyru cyngor cyfreithiol allanol, methiant i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a phrosesau penderfynu gwael ac anhryloyw.
Ar 2 Medi 2020, cyhoeddodd Cyngor Sir Penfro y byddai ei Brif Weithredwr yn gadael ei gyflogaeth trwy gytundeb. O dan delerau Cytundeb Setlo, cafodd y Prif Weithredwr daliad terfynu o £95,000 a daeth ei gyflogaeth i ben ar 30 Tachwedd 2020. Cynhaliodd yr Archwilydd Cyffredinol archwiliad o’r amgylchiadau a arweiniodd at ymadawiad y Prif Weithredwr a’r broses benderfynu a arweiniodd at roi’r taliad terfynu gan y Cyngor.
Canfu’r adroddiad fod y Cyngor wedi methu â chofnodi’n iawn beth oedd y rheswm dros ymadawiad y Prif Weithredwr a pham fod y Prif Weithredwr yn mynd i gael taliad terfynu. Fe wnaeth y broses benderfynu a ddilynwyd gan y Cyngor, ynghyd â methu â chydymffurfio â deddfwriaeth na’i gyfansoddiad, arwain at daliad sy’n debygol o fod yn erbyn y gyfraith.
Canfuwyd diffygion sylweddol a niferus o ran llywodraethu yn y ffordd yr ymdriniodd y Cyngor â’r taliad terfynu i’r Prif Weithredwr blaenorol. Mae’r rhain yn cynnwys:
Er bod canfyddiadau’r adroddiad yn seiliedig ar faterion sy’n ymwneud ag ymadawiad y Prif Weithredwr ac ar y rheiny yn unig, mae angen i’r Cyngor weithredu ar frys i ddarparu hyder i’r cyhoedd bod ei drefniadau llywodraethu’n ddigon cadarn i atal methiannau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion sy’n ymwneud ag agweddau ar lywodraethu y mae angen i’r Cyngor fynd i’r afael â hwy, gan gynnwys argymhellion ynghylch rolau a chyfrifoldebau, perthnasoedd rhwng aelodau a swyddogion, prosesau penderfynu, taliadau terfynu, datganiad ar bolisi tâl y Cyngor, caffael, defnyddio ymgynghorwyr allanol, Cyfansoddiad y Cyngor a’r angen i sicrhau yr ymlynir wrth Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus.
Mae angen gwelliant pellach o hyd; fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cydnabod bod uwch swyddogion yng Nghyngor Sir Penfro wedi cydnabod difrifoldeb canfyddiadau’r adroddiad ac wedi sefydlu cynllun gwella parhaus, yn ogystal â gweithredu i wella’i drefniadau llywodraethu a’i brosesau penderfynu.
Gall methu â sefydlu trefniadau llywodraethu effeithiol a/neu gydymffurfio â’r trefniadau a sefydlwyd gael canlyniadau difrifol a thanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd mewn sefydliad. Mae gan Gyngor Sir Penfro waith i’w wneud i sicrhau bod ei drefniadau llywodraethu’n ddigon cadarn, ac adennill ymddiriedaeth y cyhoedd. Fodd bynnag, mae’r camau y mae’r Cyngor wedi’u cymryd ers hynny i wella’i drefniadau llywodraethu a’i brosesau penderfynu, a’r arweinyddiaeth a ddarparwyd eisoes gan ei Brif Weithredwr newydd, yn rhoi hyder i mi y bydd y Cyngor yn gweithredu ar yr argymhellion yn fy adroddiad. Gobeithio y bydd sefydliadau cyhoeddus eraill yn cymryd sylw o’r adroddiad ac yn ystyried a yw’n cynnwys gwersi y gallant hwythau ddysgu ohonynt.