Rydym am gael eich barn: arolwg #EichTrefEichDyfodol wedi’i gyhoeddi

01 Rhagfyr 2020
  • Mae Archwilio Cymru yn edrych ar ba mor dda y mae canol trefi ledled Cymru yn ymdopi ag effaith pandemig COVID-19. Mae'r adolygiad am gael cymorth gan gymunedau ledled Cymru i ddarganfod sut y gallwn adfywio canol trefi'n llwyddiannus.

    Bydd yr arolwg yn rhedeg o ganol mis Tachwedd tan ddiwedd mis Chwefror. Bydd y wybodaeth a gesglir o'r arolwg yn ein helpu i ddeall yr heriau a'r anawsterau sy'n wynebu trefi ledled Cymru a bydd yn helpu i lywio ein hargymhellion ar yr hyn sydd angen ei wneud.

    Darganfyddwch mwy a chymryd yr arolwg.