Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Rydym yn ceisio barn ar Raglen Waith yr Archwilydd Cyffredinol

08 Mawrth 2022
  • Helpwch i lunio ein harchwiliadau

    Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ceisio eich barn ar ffurf ein Rhaglen Waith ar gyfer 2022-23 a thu hwnt.

    Wrth inni ddechrau dod allan o'r pandemig, mae'n anochel y bydd ei effaith yn parhau i gael dylanwad sylweddol ar ein gwaith.

    Mae llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw – mewn meysydd fel anghydraddoldeb, iechyd y cyhoedd, a'r argyfwng hinsawdd – yn gymhleth, yn gydgysylltiedig ac yn peri pryder i amrywiaeth o sefydliadau.

    Nid yn unig yr ydym am ddatblygu rhaglen archwilio strategol, ddeinamig ac o ansawdd uchel, ond yr ydym am ysgogi dull wedi'i dargedu ac effeithiol o gyfathrebu a dylanwadu ar ein gwaith pwysig hefyd.

    Caiff ein Rhaglen Waith ei llunio gan y themâu canlynol – sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gwella o'r pandemig; sut mae sefydliadau'n ymateb i fyd sy'n newid – yr argyfwng hinsawdd, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, rheoli cyfleoedd a risgiau wedi Brexit; a hefyd sut mae'r sector cyhoeddus yn ceisio trawsnewid y modd y darperir gwasanaethau.

    ,
    Mae'n hanfodol bod ein ffocws archwilio yn esblygu i adlewyrchu sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn trefnu eu hunain i ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu. Rydym yn bwriadu rhoi mwy o bwyslais yn ein cynnyrch archwilio ar adrodd thematig, cymariaethau ar draws cyrff a archwilir a nodi arfer da i ategu gwasanaethau cyhoeddus i wella. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,