Rydym yn cyflogi! Ymunwch â'n tîm i helpu lunio'r dyfodol

30 Hydref 2023
  • Rydym am gyflogi Cyfarwyddwyr Archwilio (Cyfrifon),  i ymuno a ni yn Archwilio Cymru.

    Fydd rôl Cyfarwyddwyr Archwilio yn bennaf gyfrifol am bortffolio o waith archwilio, gan gynnwys darparu cyfrifon ariannol a gwaith trefniadau priodol. Fel Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Archwilio, byddech yn atebol i Gyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Archwilio ac i Archwilydd Cyffredinol Cymru.

    Bydd y sawl a benodir yn modelu'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n sail i Archwilio Cymru, yn ysgogi cydweithwyr drwy ddiwylliant o hyfforddi a datblygu ac yn dod â'r ddynamiaeth a'r arweinyddiaeth strategol sydd eu hangen i wireddu eu potensial fel sbardun i wella gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

    Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ei addysgu i lefel gradd neu gyfwerth efo cymhwyster proffesiynol CCAB ac achrediad DPP cyfredol. Fydd gwybodaeth helaeth am ddeddfwriaeth archwilio, yr amgylchedd rheoleiddio a safonau proffesiynol, ynghyd a dealltwriaeth dda o sector cyhoeddus Cymru, yr amgylchedd gwleidyddol cysylltiedig a lle Archwilio Cymru ynddo yn hanfodol i'r rôl.

    Oes gennych chi sgiliau arwain cryf sy'n hyrwyddo cydweithio a gwelliant parhaus? Fedrwch chi ganolbwyntio ar gwsmeriaid, ysgogi a datblygu staff a sicrhau bod archwiliadau o ansawdd uchel a diwylliant sefydliadol cadarnhaol yn cael eu darparu? Dyma rai o'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus yn y swydd.

    Pam ymuno ag Archwilio Cymru?

    Mae Archwilio Cymru yn lle gweithgar a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

    Yn Archwilio Cymru rydym yn gofalu am ein pobl ac yn cynnig manteision gweithio hael sy'n darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

    Rydym yn hyblyg - Rydym yn gweithio'n Gallach. Rydym yn cynnig Telerau Rhagorol gan gynnwys wythnos waith 35 awr, a 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus).

    Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl ac o blaid datblygiad personol a phroffesiynol. Rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.

    Rydym yn Falch o gael Achrediad - Rydym yn gyflogwr ‘Working Families’ a ‘Change 100’ balch ac rydym wedi llwydo i gael achrediad Cyflog Byw.

    Os yw'r cyfle hwn yn swnio'n gyffrous i chi, gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais drwy ein gwefan.