Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Rydym yn dathlu Wythnos Brentisiaethau yn Archwilio Cymru

05 Chwefror 2024
  • Rydym wrth ein boddau i ddathlu Wythnos Prentisiaethau yma yn Archwilio Cymru.

    Mae'r ymgyrch flynyddol hon yn ceisio hyrwyddo'r ystod amrywiol o brentisiaethau sydd ar gael a sut maent yn ddewis gyrfa gwych. Cynhelir y dathliadau wythnos gyfan eleni rhwng 5 Chwefror a 11 Chwefror a'r thema yw 'Sgiliau am Oes'.  

    Rydym yn falch o ddarparu amrywiaeth o brentisiaethau, gan gynnwys prentisiaethau archwilio ariannol a gwyddor data fel rhan annatod o'n gweithlu.  

    ,
    Mae Archwilio Cymru wrth eu boddau i ategu prentisiaethau, sy'n rhoi cyfle gwych i'r cyflogwr a'r prentis. Mae'r prentis yn ennill sgiliau a phrofiad ymarferol drwy ddysgu yn y gwaith wrth astudio ar gyfer cymhwyster proffesiynol. Mae prentisiaid yn dod â meddwl newydd a phersbectif ffres ac amrywiol i'r gweithle tra'n cynnig cyfle i staff cyfredol ddatblygu eu sgiliau hyfforddi Sian Grainger, Cydlynydd yr Hyfforddwyr.
    ,

    Byddwn yn defnyddio'r wythnos hon i rannu rhai straeon gan ein prentisiaid cyfredol ar sut maent yn gweld eu taith hyd yma. Rydym hefyd wedi bod yn siarad ag un o'n prentisiaid a gwblhaodd brentisiaeth AAT ac sydd wedi mynd ymlaen i'n rhaglen hyfforddi i raddedigion.  

    Byddwn yn rhannu blogiau, tystebau a fideo am ein prentisiaethau drwy gydol yr wythnos, felly cadwch lygad allan ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.  

    Dilynwch ni ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol isod i ymuno â’n dathliad. 

    Twitter: @WalesAudit [yn agor mewn ffenestr newydd] 

    Facebook:@archwiliocymru [agorir mewn ffenest newydd] 

    LinkedIn: Archwilio Cymru [yn agor mewn ffenestr newydd] 

    Instagram:@archwiliocymru [agorir mewn ffenest newydd]

    Gallwch ganfod rhagor o fanylion am wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ar wefan y llywodraeth [agorir mewn ffenest newydd]. Neu gymerwch ran drwy ddilyn #ACCymru #WGB2024 a #SgiliauAmOes.