Seminar yn dangos y ffordd ymlaen

09 Tachwedd 2020
  • Digwyddiad yn ystyried sut y bydd Bil Cenedlaethau’r Dyfodol yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

    Heddiw croesawodd Swyddfa Archwilio Cymru uwch-arweinwyr ac ymarferwyr i’r seminar cyntaf mewn cyfres o seminarau dysgu ar y cyd a fydd yn ystyried Bil Cenedlaethau’r Dyfodol.

    Rhoddodd y digwyddiad gyfle i’r sawl a oedd yn bresennol gael gwybod mwy am y Bil a datblygu eu harfer eu hunain.

    Meddai Mike Palmer, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy yn Swyddfa Archwilio Cymru: “Clywsom heddiw am nifer o ddatblygiadau diweddar ym maes adrodd ynghylch perfformiad sefydliadau, yng Nghymru a thu hwnt. Mae cael cyfle i drafod sut y gallem ddefnyddio’r datblygiadau hyn yn werthfawr tu hwnt.”

    Roedd seminar heddiw’n cynnwys sesiynau gan Ystadau’r Goron a Chyngor Abertawe ynghylch dulliau adrodd integredig yn ogystal â sesiwn lawn gan Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru, a fu’n ystyried sut i roi dulliau adrodd integredig ar waith.

    Meddai Peter Davies: “Bydd Bil Cenedlaethau’r Dyfodol yn cyflwyno systemau i wella ein prosesau llywodraethu a gwneud penderfyniadau ar gyfer y tymor hir. Bydd yn darparu fframwaith cyffredin ar gyfer y sector cyhoeddus gyda ffocws clir ar gyflawni canlyniadau gwell er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Bydd digwyddiadau tebyg i hwn yn hanfodol wrth i wasanaethau cyhoeddus baratoi ar gyfer adrodd ynghylch datblygu cynaliadwy, a hoffwn annog y sawl na fedrodd fynychu’r tro hwn i gofrestru ar gyfer seminarau’r dyfodol.”

    Bydd allbwn a fideos o’r digwyddiad ar gael yn fuan ar ôl i’r seminar gael ei gynnal unwaith eto yn Llanrwst yn y gogledd ar 13 Chwefror. Mae rhai lleoedd yn weddill ar gyfer y seminar hwnnw, ac ni chodir tâl am fynychu.

    Dim ond dau le y gellir ei gynnig i bob sefydliad. I gadw lle, anfonwch e-bost sy’n nodi eich enw, teitl eich swydd, y dyddiad y byddech yn ei ffafrio, a Sesiwn 1 neu 2 i’r cyfeiriad canlynol: sharedlearningevent@wao.gov.uk