Geiriau ac ymadroddion a glywn lawer yn awr yw Profi, Olrhain a Diogelu (TTP), Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a Brechiadau. Rydym yn archwilio ymateb gwasanaethau cyhoeddus i'r heriau ym mhob un o'r meysydd hyn yn ein hadroddiadau sydd ar y gweill.
Profi, Olrhain a Diogelu
Mae TTP yn rhan hanfodol o ddull Llywodraeth Cymru o gyfyngu ar ledaeniad COVID-19 a lleihau'r angen am gyfyngiadau ar fywydau pobl.
Mae ein hadroddiad yn rhoi trosolwg lefel uchel o'r hyn sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn rhaglen sy'n esblygu'n gyflym. Rydym wedi adolygu dogfennau, cyfweld â staff mewn byrddau iechyd, awdurdodau lleol, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad ar y rhaglen TTP yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Offer Diogelu Personol
Ym mis Rhagfyr 2020, fe gyhoeddom ddiweddariad a rhai o’r canfyddiadau sydd wedi dod i’r amlwg am gaffael PPE trwy ein gwaith.
Yn ein hadroddiad sydd i ddod, rydym yn edrych ar gaffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol i wasanaethau cyhoeddus Cymru yn ystod pandemig COVID-19 ac yn canolbwyntio ar yr ymdrechion cenedlaethol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol. Arweiniwyd yr ymdrechion hyn gan Lywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chydwasanaethau GIG Cymru (Cydwasanaethau) a llywodraeth leol.
Rydym wrthi’n cwblhau ein hadroddiad gyda'r bwriad o'i gyhoeddi ddechrau mis Ebrill.
Brechiadau
Byddwn yn cyhoeddi sylwebaeth gychwynnol ar gyflwyno'r rhaglen frechu yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
Bydd yn ystyried cynnydd yn erbyn y cerrig milltir allweddol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a'r ffactorau gwahanol sy'n effeithio ar allu i gyflawni'r targedau hynny. Bydd hefyd yn ystyried rhai o'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer y rhaglen frechu wrth i ni barhau drwy 2021 a thu hwnt.
Mae angen i'r rhaglenni TTP a brechu barhau i esblygu, ochr yn ochr â chynhyrchu cyfarpar diogelu personol, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio, fel cenedl, ar gadw lygad barcud ar y feirws.