Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Cyfleoedd newydd i weithio gyda ni
Rydym yn awyddus i benodi Uwch Gydlynydd Stiwdio i oruchwylio a rheoli gwasanaeth cyhoeddi a dylunio integredig o fewn Archwilio Cymru.
Gan adrodd i'r Pennaeth Cyfathrebu, bydd yr Uwch Gydlynydd Stiwdio yn helpu i reoli unigolion, y llif gwaith, a darparu gwasanaethau o fewn cyhoeddi a dylunio.
Bydd yn arwain ein tîm o ddylunwyr a chyhoeddwyr, gan ddyrannu gwaith yn unol â hynny; cysylltu â chyfieithwyr allanol a darparwyr print i sicrhau dyfyniadau, comisiynu gwaith, a monitro cynnydd prosiectau; ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt yn fewnol ac yn allanol.
Yn ogystal, bydd yn adolygu ac yn monitro systemau i sicrhau arbedion effeithlonrwydd ac yn gwella gwerth am arian ac effaith cyhoeddi a dylunio.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos gwybodaeth gynhwysfawr am sut mae penderfyniadau dylunio yn effeithio ar hygyrchedd, a bydd yn hyrwyddo arfer da o ran adrodd straeon data effeithiol. Bydd yn meddu ar ddealltwriaeth glir o bensaernïaeth brand, ac yn barod i gyfrannu at y gwaith o feithrin diwylliant cadarnhaol Archwilio Cymru yn unol â'n gwerthoedd a'n hymddygiadau.
Canfuwch fwy am y swydd ar ein tudalen swyddi [agorir mewn ffenestr newydd].
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 07/09/2020.