Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae adroddiad blynyddol a chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2012-13, a gyhoeddir heddiw, yn nodi'r rhaglen sylweddol o waith archwilio ariannol a pherfformiad annibynnol y mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i chyflawni.
Mae helpu gwasanaethau i wella eu safonau llywodraethu a rheoli ariannol, sy'n bryderon allweddol ymhlith y cyhoedd, yn ganolog i'n harchwiliadau ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd wedi ymateb mewn ffordd galonogol i argymhellion ein harchwiliadau dros y flwyddyn ddiwethaf.
Swyddfa archwilio cymru yn canolbwyntio ar helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella
Hyrwyddo buddiannau pobl Cymru
Mae adroddiad blynyddol a chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2012 - 13, a gyhoeddir heddiw, yn nodi ’ r rhaglen sylweddol o waith archwilio ariannol a pherfformiad annibynnol y mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi ’ i chyflawni
Mae helpu gwasanaethau i wella eu safonau llywodraethu a rheoli ariannol, sy ’ n bryderon allweddol ymhlith y cyhoedd, yn ganolog i ’ n harchwiliadau ac mae ’ r adroddiad yn tynnu sylw at ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd wedi ymateb mewn ffordd galonogol i argymhellion ein harchwiliadau dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ymhlith yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn roedd adroddiadau ar gyfrifon dros 800 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru; 14 o adroddiadau cenedlaethol yn edrych ar werth am arian mewn meysydd allweddol o wariant cyhoeddus; 28 o adroddiadau gwella blynyddol ar gyrff llywodra eth leol ac asesiadau strwythuredig o bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau ’ r GIG; a chyhoeddi ein Strategaeth ar gyfer 2013 - 2016 ym mis Ebrill, ar ôl gofyn i ’ n rhanddeiliaid, y cyhoedd a ’ n staff am eu barn.
Bydd Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 yn arwain at newid ein strwythur gyda ’ r nod o gryfhau systemau llywodraethu ac atebolrwydd, rhywbeth a groesewir gennym, gan gynnwys sefydlu Swyddfa Archwilio Cymru fel corff corfforaethol a arweinir gan fwrdd statudol.
Tanlinellwn bwysigrwydd systemau llyw odraethu a rheoli ariannol cadarn o ran y broses o redeg Swyddfa Archwilio Cymru o ddydd i ddydd i ’ r un graddau â ’ n harchwiliadau, ac fel cyrff cyhoeddus eraill, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn dal i geisio cyflawni arbedion effeithlonrwydd: yn 2012 - 13, gwn aeth cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch staff ostwng 30 y cant, i lefel sy ’ n is na meincnod y sector cyhoeddus.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:
Yn 2012 - 13, rydym wedi parhau i gydweithio ’ n agos â chyrff cyhoeddus yng Nghymru a ’ r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus; parhau i roi ffocws cryf ar helpu cyrff cyhoeddus i ddelio â phwysau ariannol nas gwelwyd o ’ r blaen. Ymhlith themâu allweddol y flwyddyn a ’ n strategaeth ar gyfer datblygu archwiliadau cyhoeddus mae annog llywodraet hu cryfach, gwell rheolaeth ariannol ac arloesed a reolir yn dda, hyrwyddo arfer da, a chynorthwyo cyrff cyhoeddus i wario arian yn ddoeth. Mae rhoi gwybodaeth archwilio berthnasol ac amserol ar y cam llunio polisi a gwneud penderfyniadau yn hynod bwysig a r adeg o gydweithredu dwys, trawsnewid ac ad - drefnu posibl gwasanaethau cyhoeddus.
Wrth gwrs, nid ydym wedi osgoi ’ r pwysau ariannol sylweddol sy ’ n wynebu ’ r sector cyhoeddus cyfan ar hyn o bryd, ac rydym wedi gweithio ’ n galed i wella ein heffeithlonrwydd, ein darbodusrwydd a’n heffeithiolrwydd. Rwy’n ddiolchgar i bawb sy ’ n ymateb mor gadarnhaol i ganfyddiadau ac argymhellion ein harchwiliadau ac sydd wedi helpu i sicrhau ein bod yn cael cymaint o effaith â phosibl o ran cynnal a gwella gwasanaethau cyhoedd us yng Nghymru.
Nodiadau i Olygyddion