Swyddfa Archwilio Cymru yn Ymuno â'r Comisiwn Elusennau i Gynnal Seminar Arfer Da i Ymddiriedolwyr

09 Tachwedd 2020
  • Caiff y bobl sy'n rhedeg elusennau yng Nghymru eu gwahodd i seminar rhyngweithiol am ddim er mwyn edrych ar ffyrdd o wella systemau llywodraethu, llythrennedd ariannol, prosesau gwneud penderfyniadau, y diwylliant grantiau a recriwtio yn y trydydd sector yng Nghymru.

    Mae'r digwyddiad, sy'n digwydd ar 6 Tachwedd, yn cael ei gynnal fel rhan o Wythnos Genedlaethol yr Ymddiriedolwyr gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y cyd â'r Comisiwn Elusennau ac Arfer Da Cymru.

    Mae wedi'i gynllunio ar gyfer y rheini sy'n gyfrifol am lywio busnes elusen - p'un a ydynt yn ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor. Bydd y digwyddiad yn rhannu'r arferion mwyaf cyfredol o bob cwr o Gymru a thu hwnt.