Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

System Gofal Heb ei Drefnu yng Nghymru o dan bwysau aruthrol

21 Ebrill 2022
  • Mae gan lawer o gleifion brofiad sy'n is na'r lefel o ansawdd y gallai fod yn rhesymol iddynt ei disgwyl

    Mae ein blog yn amlinellu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau Gofal Heb ei Drefnu ar hyn o bryd, yr effaith y mae hyn yn ei chael ar gleifion a staff, a chamau gweithredu sy'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r problemau.

    Mae gofal heb ei drefnu yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio unrhyw ymyriad gofal iechyd heb ei gynllunio, brys neu argyfwng, ac mae'n cyfeirio at ofal y mae angen ei ddarparu'n gyflym neu mewn rhai achosion ar unwaith.

    Ar hyn o bryd, mae'r system gofal heb ei drefnu yng Nghymru yn wynebu pwysau na welwyd mo'i thebyg o'r blaen. Mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn ei chael hi'n anodd ymdopi, gyda chleifion yn wynebu amseroedd aros hir ac anghyfforddus yn aml, cyn y gellir eu trin neu eu derbyn i ward.  

    Gall lawer o gleifion y mae arnynt angen ambiwlans brys wynebu amseroedd aros hir iawn. Ledled Cymru gyfan, nid yw'r targed ar gyfer ymateb i'r galwadau 999 mwyaf difrifol sy'n bygwth bywyd wedi'i gyrraedd ers mis Gorffennaf 2020. Mae gallu'r gwasanaeth ambiwlans i ymateb i alwad frys yn cael ei lesteirio'n ddifrifol gan fod llawer o'i gerbydau'n gorfod aros yn hir y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys cyn y gallant drosglwyddo eu cleifion. Ym mis Chwefror 2022 collwyd yr hyn sy'n cyfateb i 827 awr y dydd o amser ambiwlans i 'oedi wrth drosglwyddo cleifion'.

    Mae'r pwysau hyn yn rhoi straen enfawr ar staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal heb ei drefnu ac yn creu risgiau sylweddol i gleifion. 

    Mae llawer o ffactorau'n cyfuno i greu'r pwysau hyn, gan gynnwys:

    • Galw cynyddol am wasanaethau gofal brys, wedi'u gyrru'n rhannol gan salwch sy'n gysylltiedig â COVID,
    • Heriau o ran y gweithlu, wedi'u dwysáu gan lefelau uwch na'r arfer o absenoldeb oherwydd salwch,
    • Oedi wrth ryddhau cleifion sy'n ffit yn feddygol o'r ysbyty gydag effeithiau canlyniadol ar lif cleifion brys o'r adran damweiniau ac achosion brys i ward,  
    • Nid yw cleifion bob amser yn mynd at y gofal mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. 

    Er bod y pandemig yn sicr wedi creu cyfres newydd o bwysau ar wasanaethau, mae rheoli'r galw am ofal heb ei drefnu wedi bod yn her ers blynyddoedd lawer. Nid yw'r targed o dderbyn neu ryddhau 95% o gleifion adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn pedair awr wedi'i gyrraedd am y pedair blynedd cyn y pandemig ac roedd perfformiad wedi bod yn dirywio'n gyson. Yn yr un modd, mae amser ymateb ambiwlansys ar gyfer galwadau 999 difrifol ond nad ydynt yn bygwth bywyd wedi bod yn cynyddu ers 2017. 

    Mae nifer o adolygiadau a mentrau polisi wedi'u lansio dros y blynyddoedd i geisio mynd i'r afael â phroblemau'r system gofal heb ei drefnu. Nodwyd y diweddaraf o'r rhain mewn Datganiad Gweinidogol diweddar gan Lywodraeth Cymru: Chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng

    Yn ystod 2022, bydd Archwilio Cymru yn gwneud gwaith i asesu sut mae'r system yn ymateb i'r pwysau hyn yng nghyd-destun polisi newydd Llywodraeth Cymru. Bydd ein gwaith yn edrych yn benodol ar y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau'n brydlon ac yn ddiogel o'r ysbyty. Rydym hefyd yn bwriadu adolygu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran rheoli'r galw am ofal heb ei drefnu drwy gyfeirio cleifion at wasanaethau sydd fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.

    ,
    Mae darparu gofal brys ac argyfwng amserol ac ymatebol wedi cyflwyno her sylweddol i'r GIG a'i bartneriaid ers blynyddoedd lawer. Daethpwyd â'r her hon i ffocws mwy fyth gan y pwysau a achosir gan y pandemig, sy'n golygu bod risgiau gwirioneddol bellach y bydd cleifion yn dod i niwed o ganlyniad i'r ffaith nad yw'r system gofal heb ei drefnu yn gallu ymateb i'w hanghenion. Mae'n hanfodol bod y polisi newydd a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn dechrau sbarduno gwelliannau ar unwaith. Bydd y gwaith y bydd Archwilio Cymru yn ei wneud yn ystod 2022 yn archwilio hyn yn fanylach drwy edrych ar agweddau allweddol ar y system gofal heb ei drefnu sy'n ganolog i gyflawni'r nodau polisi newydd. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    , ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Gofal Heb ei Drefnu yng Nghymru

    View more