Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae sylwadau newydd yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi gwybodaeth allweddol i’r cyhoedd a’r rhai hynny sy’n gyfrifol am graffu.
Mae’r sylwadau yn crynhoi sut yr ariennir Llywodraeth Cymru, sut y mae’n gwario ei harian, yr hyn y mae’n berchen arno a’r hyn sy’n ddyledus ganddi. Mae hefyd yn esbonio amod yr Archwilydd Cyffredinol ar ei farn archwilio ar Gyfrifon Cyfunol 2019-20.
Yn 2019-20, cynyddodd gwariant ‘grŵp’ Llywodraeth Cymru £1.2 biliwn (7%) o’i gymharu â 2018-19. Cyfanswm y gwariant yn 2019-20 oedd £17.5 biliwn. Roedd gan ‘grŵp’ Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys 17 o wahanol endidau, asedau o £30.4 biliwn ar 31 Mawrth 2020 ac roedd yn cario tua £3.7 biliwn mewn rhwymedigaeth ac ymrwymiadau. Mae’r sylwadau yn darparu rhagor o fanylion.
Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn amodol ar gyfrifon 2019-20. Roedd hyn o ganlyniad i hepgor gwariant o bwys yn ymwneud â grantiau penodol y byddai busnesau yn eu derbyn mewn ymateb i bandemig COVID-19, mae hyn wedi codi oherwydd anghytundeb â Llywodraeth Cymru ar fater cyfrifyddu technegol cymhleth. Byddai cynnwys y gwariant wedi dangos bod yn ei farn ef Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy na’i therfyn gwariant net awdurdodedig a gymeradwywyd gan y Senedd ar gyfer 2019-20, gan wneud rhywfaint o wariant yn afreolaidd. Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno â safbwynt yr Archwilydd Cyffredinol ar y driniaeth gyfrifyddu a ddefnyddiwyd, ac felly â’r amod.
Nid cyllid Llywodraeth Cymru yn unig y mae’r Cyfrifon Cyfunol yn eu disgrifio; maent hefyd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â sut y gweithredir Llywodraeth Cymru. Yn berthnasol i hyn, mae’r sylwadau yn darparu crynodeb o’r materion sy’n deillio o raglen waith ehangach yr Archwilydd Cyffredinol mewn meysydd sy’n cynnwys gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, cynllunio’r gweithlu, rheoli grantiau, trefniadau gwrth-dwyll a TGCh.
Mae cyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol. Rwyf wedi paratoi’r sylwadau newydd hyn er mwyn dod â rhywfaint o hynny i’r amlwg, i hysbysu’r cyhoedd a’r rhai sy’n gyfrifol am graffu ar Lywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at wybodaeth allweddol am gyllid Llywodraeth Cymru a chanfyddiadau ein gwaith ehangach ar agweddau ar brosesau llywodraethu a gweinyddu Llywodraeth Cymru. Er fy mod wedi rhoi amod ar fy marn archwilio, o ganlyniad i’r driniaeth gyfrifyddu a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i rai grantiau busnes y mae hyn ac nid yw’n adlewyrchu safbwynt ar werth am arian cyffredinol y gwariant hwnnw. Er gwaethaf yr amod ar fy marn archwilio, yng nghyd-destun yr ansicrwydd a’r pwysau ehangach sy’n deillio o’r pandemig, mae’n deyrnged i bawb dan sylw bod y gwaith o baratoi ac archwilio’r cyfrifon wedi ei gwblhau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2020.