Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Dilyniant 2023

20 Hydref 2023
  • Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, wedi ysgrifennu at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd yn nodi canfyddiadau allweddol o'i waith dilynol ar ymdrin ag absenoldeb athrawon.

    Daw'r llythyr i'r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd ystod o gamau gweithredu perthnasol mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad ym mis Tachwedd 2020 . Fodd bynnag, mae rhai materion yn parhau. Er nad ydym wedi cyhoeddi argymhellion newydd, mae'r llythyr yn nodi meysydd y byddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru eu monitro a'u hadolygu.

    Rydym yn tynnu sylw at y ffaith bod casglu data wedi gwella, ond mae diffyg data o hyd ynghylch maint absenoldebau athrawon am resymau heblaw salwch. Hefyd, nid oes llawer o ddata ynghylch i ba raddau y mae athrawon cyflenwi a staff cyflenwi yn manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol.

    Rydym hefyd yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu contract fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer staff asiantaeth mewn addysg sy'n gweithredu o fis Medi 2023. Yn 2022-23, gwariodd ysgolion ac awdurdodau lleol £101 miliwn drwy'r contract blaenorol yn 2022-23.

    Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu opsiwn newydd i ysgolion ac awdurdodau lleol gyflogi athrawon cyflenwi yn uniongyrchol trwy Bwll Cyflenwi Cenedlaethol i Gymru sy'n rhoi mynediad i gronfa bensiwn athrawon, ond mae'n debygol nad yw'r nifer sy'n derbyn y pensiwn yn hysbys, a bydd y costau'n uwch nag ar hyn o bryd.

    Mae prinder cyflenwad addas o hyd mewn rhai meysydd, pynciau a chyfrwng Cymraeg. Mae cyfanswm nifer yr athrawon cyflenwi cofrestredig wedi gostwng 16.6% rhwng 2020 a 2023.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Dilyniant 2023

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Dilyniant

    View more