Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae dogfen wedi ei chyhoeddi [Agorir mewn ffenest newydd] sy’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cydweithio er mwyn rhannu gwybodaeth, ac ymateb, pan fo materion o bwys yn codi mewn cyrff y GIG yng Nghymru.
Mae staff o Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu a chytuno ar y trefniadau, a bydd y gwaith rŵan yn symud yn ei flaen i sicrhau eu bod nhw’n cael eu gweithredu’n effeithiol.
Wrth groesawu’r trefniadau newydd, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Thomas:
Wrth ymchwilio i’r pryderon am lywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y llynedd, daeth yn amlwg bod angen i ni arolygu’r prosesau lle mae cyrff arolygu allanol a Llywodraeth Cymru yn rhannu gwybodaeth am berfformiad cyrff y GIG er mwyn sicrhau bod unrhyw weithrediadau sy’n digwydd mewn ymateb i bryderon yn cael eu cydlynu a bod y wybodaeth lawn ar gael. Rwy’n falch bod staff Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gallu cydweithio i greu’r ddogfen hon ac rwy’n croesawu ei chyhoeddiad. Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at roi’r trefniadau ar waith.