Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn siarad yng nghynhadledd gyntaf ICAEW i’r sector cyhoeddus
Mae ICAEW yn cynnal eu cynhadledd sector cyhoeddus gyntaf erioed ar 10 Rhagfyr 2021. Bydd hwn yn ddigwyddiad rhithwir o'r enw ‘Y ffordd i sero net’ [agorir mewn ffenest newydd] sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, yw'r prif siaradwr agoriadol. Yn ei sesiwn o'r enw ‘Swyddogaeth adrodd ac archwilio ariannol y sector cyhoeddus wrth gyflawni sero net’, bydd yn siarad am ei ymrwymiad i “graffu ar welliant mewn gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ar draws sector cyhoeddus Cymru a’i ysbrydoli”. Bydd hefyd yn ateb cwestiynau ar y rôl y gall adrodd ac archwilio ariannol ei chwarae wrth gefnogi'r sector cyhoeddus i gyrraedd targed uchelgeisiol y llywodraeth o allyriadau di-garbon net erbyn 2050.
Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy ngwahodd i fod yn brif siaradwr yng nghynhadledd gyntaf ICAEW i’r sector cyhoeddus. Mae'r gynhadledd yn adeiladu ar adroddiad diweddar y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ‘Llywodraeth leol a sero net yn Lloegr’. Bydd hwn yn gyfle gwych i ddod â phersbectif Cymreig i'r trafodaethau ac i siarad am rywfaint o'r gwaith unigryw rydym yn ei wneud yng Nghymru.
Yr wythnos diwethaf, fel rhagflas i'r gynhadledd, cyhoeddodd ICAEW erthygl gan Adrian hefyd am gynaliadwyedd ariannol ar sicrwydd yn y sector cyhoeddus [agorir mewn ffenest newydd], gan archwilio'r cwestiwn - Beth yw'r rhagolygon ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus o ystyried yr heriau y maent yn eu hwynebu yn y dyfodol? Mae hefyd yn tynnu sylw at ein hadroddiadau diweddar: Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2021 a Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd i Gynhadledd Cynaliadwyedd Sector Cyhoeddus ICAEW ar 10 Rhagfyr, gallwch gofrestru ar wefan ICAEW [agorir mewn ffenest newydd].