Ydych chi am fynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf? Peidiwch edrych ymhellach

25 Awst 2023
  • Mae Archwilio Cymru yn cynnig cyfleoedd cyffrous a allai fod yn berffaith addas i chi.

    Mae gennym nifer o swyddi gwag ar gael ar hyn o bryd ac rydym wrthi'n chwilio am ymgeiswyr i ymuno â'n tîm.

    Rydym yn awyddus i benodi Uwch Swyddog Prosiectau a Recordiau, Swyddog Cymorth Busnes, Uwch Archwilydd (Perfformiad), Technegydd Archwilio ac Uwch Swyddog Iechyd, Diogelwch a Chyfleusterau i ymuno â'n tîm.

    Uwch Swyddog Cofnodion a Phrosiectau

    Rydym yn chwilio am rywun sydd â gradd rheoli gwybodaeth, a diddordeb gwirioneddol mewn datblygu amgylcheddol a chynaliadwy. Mae angen profiad o reoli llinell, rheoli a chynnal cofnodion ar lefel sefydliadol, a chyflwyno prosiectau, gan arwain timau i ategu rheoli cofnodion a gwybodaeth effeithiol. 

    Swyddog Cymorth Busnes

    Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes rhan-amser yn ein tîm Datblygu ac Arweiniad Archwilio (AD&G), sy'n gyfrifol am ddatblygu ein dulliau archwilio a chanllawiau eraill; ein gweithgareddau ymchwil a datblygu; a'n system rheoli ansawdd archwilio.

    Uwch Archwilydd (Perfformiad)

    Rydym yn awyddus i recriwtio o leiaf dau Uwch Archwiliwr i ymuno â'n tîm Archwilio Perfformiad, sy'n cwmpasu'r sectorau Astudiaethau Cenedlaethol, Iechyd a Llywodraeth Leol. Nid oes rhaid i chi fod â chefndir archwilio gan nad yw hon yn rôl archwiliad ariannol neu gyfrifeg. Mewn gwirionedd, rydym yn recriwtio pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    Technegydd Archwilio

    Rydym yn awyddus i recriwtio gweithiwr proffesiynol cyllid sy’n gymwys o ran AAT i weithio yn ein Huned Busnes, gan ategu rheoli gwybodaeth, cyllidebu, bilio ac adnoddau'r tîm Gwasanaethau Archwilio yn Archwilio Cymru.

    Uwch Swyddog Iechyd, Diogelwch a Chyfleusterau

    Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Uwch Swyddog Iechyd, Diogelwch a Chyfleusterau Mae'r swydd yn cynnwys ategu ein strategaeth ystadau a rheoli asedau, arwain a chymryd rhan mewn prosiectau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch a chyfleusterau, datblygu polisïau a chanllaw perthnasol a goruchwylio ein gwaith cynnal a chadw ataliol arfaethedig a'n rhwymedigaethau dyletswydd gofal. 

     

    Pam ymuno ag Archwilio Cymru?

    Mae Archwilio Cymru yn lle gweithgar a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Mae gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol yn hollbwysig inni.

    Yn Archwilio Cymru rydym yn gofalu am ein pobl ac yn cynnig manteision gweithio hael sy'n darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

    Rydym yn hyblyg – Rydym yn gweithio'n Gallach. Rydym yn cynnig Telerau Rhagorol gan gynnwys wythnos waith 35 awr, a 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus).

    Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl ac o blaid datblygiad personol a phroffesiynol. Rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.

    Rydym yn Falch o gael Achrediad – Rydym yn gyflogwr ‘Working Families’ a ‘Change 100’ balch ac rydym wedi llwydo i gael achrediad Cyflog Byw.

    Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

    Os yw'r cyfle hwn yn swnio'n gyffrous i chi, gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais drwy ein gwefan.