Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi mynegi ei foddhad yn dilyn yr ymateb cadarnhaol gan awdurdodau gwasanaethau cyhoeddus i helpu i ail-lunio archwilio cyhoeddus yng Nghymru mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiynau am archwilio yng nghyswllt y Ddeddf arloesol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu dulliau mwy cynaliadwy at eu gwaith, cafodd ei Ymgynghoriad gyfradd ymateb o wyth deg y cant. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn awyddus i dynnu sylw at yr ymatebion ystyriol ac adeiladol a gafodd sy'n dangos diddordeb mawr mewn helpu i ddatblygu'r dull newydd hwn o archwilio ymhellach.
Mae'r Ddeddf yn cynrychioli un o nifer o heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd wedi ysgogi'r angen am ddull newydd o archwilio. Ymhlith yr heriau a'r newidiadau eraill sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus mae gostyngiadau parhaus mewn gwariant cyhoeddus, demograffeg newidiol yng Nghymru, cau cyfrifon llywodraeth leol yn gyflymach, dull sy'n ‘canolbwyntio mwy ar ganlyniadau’ o ran archwilio grantiau, datganoli cyllidol yng Nghymru a newidiadau technolegol ehangach.
Ar ôl adolygu ymatebion mewn llythyr agored i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus [PDF 156KB Agorir mewn ffenest newydd], a gyhoeddir heddiw ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru, mae'r Archwilydd Cyffredinol bellach yn bwriadu gwahodd nifer fach o gyrff i weithio gydag ef a Swyddfa Archwilio Cymru i ddatblygu a phrofi dulliau archwilio newydd, gan ddefnyddio canfyddiadau'r ymgynghoriad.
Yn ogystal, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn gweithio'n agos gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, ar eu priod rolau o dan y Ddeddf, gan ddechrau gyda chynhadledd ar y cyd i'w chynnal yng Nghaerdydd ar 22 Tachwedd 2016, a fydd yn nodi'n fanylach eu dull o ran cydweithio.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:
“Mae'r ymateb a gefais i'r ymgynghoriad cyntaf hwn wedi bod yn galonogol iawn. Rydym yn byw mewn amseroedd heriol a newidiol ond ceir brwdfrydedd a ffocws gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i arwain y ffordd tuag at ddatblygu sector cryfach, mwy cadarn nad yw dim ond yn addas ar gyfer y genhedlaeth hon, ond yn addas ar gyfer cenedlaethau i ddod hefyd.
Byddwn yn annog arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddod i'n cynhadledd yn yr hydref lle bydd y Comisiynydd a minnau yn nodi ein cynlluniau ar gyfer gweithio gyda'n gilydd. Mae craffu ar gyrff cyhoeddus yn allanol o'r pwys mwyaf er mwyn inni ddatblygu dull sy'n ategu'r ddeddfwriaeth newydd ac yn ei galluogi i gyflawni ei manteision a fwriadwyd ar gyfer Cymru.”