Ymunwch â ni fel Cynorthwyydd y Gyfraith a Moeseg!

09 Tachwedd 2020
  • Darganfyddwch fwy ac ymgeisiwch

    Rydyn ni’n chwilio am Gynorthwyydd y Gyfraith a Moeseg rhan amser i ddarparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol i Archwilydd Cyffredinol Cymru a staff Swyddfa Archwilio Cymru.

    Fe fyddwch yn cefnogi Pennaeth y Gyfraith a Moeseg wrth geisio cyngor cyfreithiol ar amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys enghreifftiau fel deddfwriaeth newydd yn ymwneud a chyrff cyhoeddus Cymru.

    Os oes gennych chi radd yn y gyfraith, ac yn edrych am swydd ran amser er mwyn eich galluogi i ymgymryd ag astudiaethau pellach, megis Cwrs Ymarfer y Gyfraith, yna ddarganfyddwch fwy ac ymgeisiwch cyn 25 Gorffennaf [agorir mewn ffenest newydd].