Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Yn falch o gael ein henwi yn un o Ddeg Cyflogwr Gorau Working Families 2023

20 Medi 2023
  • Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn y 30 sefydliad gorau, ond eleni rydym wedi cyrraedd y 10 uchaf!

    Mae'r elusen genedlaethol, Working Families [agor i'r mewn ffenestr newydd], ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n gweithio, wedi cyhoeddi bod Archwilio Cymru wedi ennill lle ar ei rhestr anrhydeddus a chystadleuol o'r cyflogwyr hyblyg ac addas i deuluoedd gorau yn y DU.

    Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn ar ddeg, mae cyflogwyr mawr a bach o bob rhan o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn cystadlu'n flynyddol i ennill lle anrhydeddus ar restr yr elusen o Gyflogwyr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy’n Gweithio.

    Y Deg Cyflogwr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy'n Gweithio eleni – yn nhrefn yr wyddor - yw:                               

    • Archwilio Cymru
    • Citigroup
    • Grant Thornton
    • Grŵp NatWest
    • Gwasanaeth Erlyn y Goron
    • Imperial College London
    • North East London NHS Foundation Trust (NELFT)
    • Pinsent Masons
    • Senedd Cymru
    • Yorkshire Building Society

    Aseswyd cyflogwyr gan ddefnyddio Meincnod Working Families a chawsant eu sgorio i greu darlun cynhwysfawr o'u polisïau a'u harferion hyblyg a chroesawgar i deuluoedd sy'n cefnogi rhieni a gofalwyr yn benodol.

    ,
    Rydym wrth ein bodd gyda'n safle ar restr 10 cyflogwr gorau ar gyfer Teuluoedd sy’n Gweithio 2023. Mae'n wych gweld ein hymrwymiad i adeiladu gweithle hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd yn cael ei gydnabod fel hyn. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol