Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Yr Archwilydd Cyffredinol yn tynnu sylw at wendidau llywodraethu yn Awdurdodau Tân ac Achub Cymru

10 Medi 2024
  • Adolygiad cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Tân ac Achub i fynd i’r afael â gwendidau yn y model llywodraethu

    Mae’r model llywodraethu ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub yn darparu fframwaith eglur ar gyfer gwneud penderfyniadau. Fodd bynnag, nid yw’r model yn sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu’r cyrff pwysig hyn yn adlewyrchu natur arbenigol eu gwaith.

    Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau allweddol, gan gynnwys:

    • hyrwyddo diogelwch tân
    • diffodd tanau
    • ymateb i ddamweiniau traffig ar y ffordd
    • ymdrin ag achosion brys rhagnodedig eraill.

    Mae holl aelodau Awdurdodau Tân ac Achub yn gynghorwyr, wedi’u henwebu gan eu hawdurdod cartref. Er bod hyn yn cydnabod pwysigrwydd cynrychiolaeth gymunedol, ceir perygl nad yw’r aelodau etholedig a enwebir yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sy’n adlewyrchu natur arbenigol y sector a’i swyddogaeth bwysig o ran diogelwch cymunedol.

    Ynghyd â chyfradd trosiant gymharol uchel o aelodau, mae hyn yn golygu bod angen i Awdurdodau Tân ac Achub ddarparu hyfforddiant sylweddol i aelodau i ganiatáu iddynt gyflawni eu swyddogaethau. Fodd bynnag, canfuwyd gennym fod gweithgarwch hyfforddi a datblygu yn gyfyngedig - er enghraifft, nid yw bob amser wedi’i hysbysu gan anghenion aelodau. Canfuwyd gennym hefyd nad yw’r ddealltwriaeth o swyddogaethau a chyfrifoldebau allweddol o fewn y strwythur llywodraethu bob amser yn cael ei dangos yn ymarferol.

    Canolbwyntiodd yr adolygiad cenedlaethol, a oedd yn rhan o raglen astudiaethau llywodraeth leol 2023-24 yr Archwilydd Cyffredinol, ar y trefniadau llywodraethu ar draws y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru – Gogledd Cymru, De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru. Ystyriodd ein hadolygiad bum elfen allweddol:

    • eglurder a phriodoldeb strwythurau llywodraethu;
    • swyddogaethau a chyfrifoldebau allweddol o fewn y strwythurau hyn;
    • diwylliant llywodraethu;
    • seilwaith i gefnogi llywodraethu effeithiol, a
    • threfniadau i adolygu a chryfhau effeithiolrwydd llywodraethu.
    ,
    Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn darparu gwasanaethau hanfodol ac mae’n bwysig eu bod yn cael eu llywodraethu mewn modd sy’n adlewyrchu’r cyhoedd a’r amgylchedd y maent yn eu gwasanaethu. Galwaf ar Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Tân ac Achub i gryfhau eu trefniadau llywodraethu a mynd i’r afael â’r gwendidau a amlygir yn fy adroddiad. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Llywodraethu Awdurdodau Tân ac Achub

    View more