Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Archwilydd Cyffredinol yn ymgynghori â chyrff cyhoeddus yng Nghymru ynghylch newidiadau i'w ddull o archwilio.
Daw hyn mewn ymateb i ddeddfwriaeth ddiweddar a deddfwriaeth sydd i ddod yn y dyfodol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 [Agorir mewn ffenest newydd], sydd wedi gosod dyletswyddau statudol newydd arno.
Mae heriau a newidiadau eraill yn wynebu gwasanaethau cyhoeddus, y mae'n rhaid hefyd eu cymryd i ystyriaeth wrth ddatblygu dull newydd o archwilio'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys:
Mae Huw Vaughan Thomas yn ymgynghori â chyrff cyhoeddus ar gynigion ar gyfer casgliad o egwyddorion a meini prawf, a ddefnyddir i ailsiapio ei ddull o archwilio.
Mae hefyd yn gofyn am farn ar b’un a ddylid edrych i mewn i'r potensial ar gyfer datblygu adrodd integredig o fewn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
"Mae gwaith craffu allanol yn hollol hanfodol, oherwydd ei fod yn rhoi persbectif annibynnol ar b’un a yw’r gwasanaethau cyhoeddus yn gwario eu harian yn ddoeth neu beidio, yn cael eu rheoli'n dda, yn ddiogel ac yn addas i'r diben.
Ond mae'n rhaid iddo hefyd fod yn berthnasol, yn ystyrlon ac yn gymesur mewn amseroedd sy'n newid. Ymdrin â hynny y mae’r ymgynghoriad hwn."
Mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad.