Mae Llywodraeth Cymru wedi gwella gallu athrawon cyflenwi i gael gafael ar adnoddau hyfforddi, wedi ymateb i bryderon ynglŷn â chontract yr asiantaeth genedlaethol – gan gynnwys isafswm cyfradd cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi – ac wedi ceisio lleihau’r amser y mae athrawon yn ei dreulio y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae effaith gyffredinol y camau gweithredu hyn yn aneglur ac mae’r system addysg o dan bwysau ychwanegol ar hyn o bryd.
Yn flaenorol, gwelsom fod oddeutu 10% o ddosbarthiadau wedi eu cyflenwi gan rywun nad oedd yn athro dosbarth, oherwydd salwch a datblygiad proffesiynol yn amlach na pheidio. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio lleihau biwrocratiaeth a llwyth gwaith athrawon, sy’n ffactorau a all gyfrannu at absenoldeb yn gysylltiedig â straen, a rheoli effaith gweithgareddau datblygiad proffesiynol ar amser addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Erbyn hyn, ceir amrywiaeth o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru sy’n berthnasol i gyflenwi absenoldeb athrawon, er bod tystiolaeth nad adlewyrchir hyn bob amser yn yr ystafell ddosbarth.
Mae athrawon cyflenwi a staff cyflenwi eraill yn gallu cael gafael ar hyfforddiant ac adnoddau ar-lein ar gyfer eu datblygiad proffesiynol eu hunain bellach ac mae contract staffio cyfredol yr asiantaeth genedlaethol yn cwmpasu darpariaeth hyfforddiant sylfaenol yn well mewn meysydd megis diogelu. Fodd bynnag, mae cost bosibl hyfforddiant a/neu’r cyfle a gollwyd i weithio a sicrhau incwm yn parhau i fod yn bryder i lawer.
Ers mis Medi 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys isafswm cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi yn ei chontract staffio asiantaeth genedlaethol. Mae’r isafswm cyflog hwn yn cyfateb i waelod prif raddfa’r athrawon (ychydig yn llai na £139 y diwrnod ar hyn o bryd). Croesawyd hyn gan y gymuned staff cyflenwi er ei fod yn debygol o gynyddu’r pwysau ar gyllidebau ysgolion a gallai ysgogi ysgolion i ystyried trefniadau y tu allan i’r contract cenedlaethol neu i beidio â dibynnu ar athrawon cymwysedig. Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer cynllun treialu a welodd athrawon newydd gymhwyso yn cael eu cyflogi i ddarparu gwasanaeth cyflenwi ar draws 19 o glystyrau ysgolion, er bod costau’n broblem pan ddaeth y cyllid i ben.
Mae bylchau mewn data yn ei gwneud yn anodd dweud a yw’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael yr effeithiau a fwriedir. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyfanswm y gwariant ar drefniadau cyflenwi, sut y darperir staff cyflenwi neu eu heffaith ar ddysgwyr. Mae rhywfaint o ansicrwydd hefyd ynghylch y nifer sy’n manteisio ar yr adnoddau hyfforddi sydd ar gael bellach. Gallai Arolwg o’r Gweithlu Addysg yn y dyfodol ddarparu rhywfaint o dystiolaeth berthnasol. Adroddodd yr arolwg diwethaf yn 2017 ac mae cynlluniau ar gyfer arolwg arall yn gynharach yn 2020 wedi eu gohirio.
Wrth edrych i’r dyfodol, mae Llywodraeth Cymru’n amcangyfrif y bydd angen llawer o staff cyflenwi ar ysgolion er mwyn rhyddhau staff i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae’n amcangyfrif y bydd hyn yn arwain at gost o ychydig yn llai nag £11 miliwn yn 2020-21. Nid ydym yn glir a oes digon o athrawon cyflenwi gweithredol ar gael i wneud hyn, yn enwedig gan ei bod yn debygol y bydd galw am staff ar gyfer y fenter ‘Recriwtio, Adfer a Chodi safonau’, a chyfradd uwch na’r cyfartaledd o absenoldeb oherwydd salwch neu staff sy’n hunanynysu oherwydd pandemig COVID-19. Gallai bodloni’r galw ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a phynciau lle ceir prinder megis mathemateg a ffiseg fod yn arbennig o anodd.
Mae ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:
- Atgyfnerthu yn ei phroses o ddatblygu a gweithredu polisi bod rheoli absenoldeb staff mewn modd effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr;
- Nodi mesurau llwyddiant tymor hwy clir er mwyn barnu’r cynnydd o ran gwella ansawdd a digonolrwydd athrawon cyflenwi; a
- Sicrhau bod staff cyflenwi a gyflogir drwy gontract yr asiantaeth genedlaethol yn gweithio yn unol â disgrifiad eu swyddogaeth.