A yw awdurdodau lleol yn adeiladu cydnerthedd cymunedol?

28 Ionawr 2022
  • Rydym am glywed eich barn

    A yw eich awdurdod lleol yn eich galluogi chi a'ch cymuned i wneud mwy drosoch eich hun?

    Rydym am ddarganfod sut mae awdurdodau lleol yn adeiladu gwydnwch cymdeithasol a hunanddibyniaeth yn eu dinasyddion a'u cymunedau. A yw eich awdurdod lleol yn eich cefnogi i fyw'n annibynnol?

    Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, llenwch ein harolwg [agorir mewn ffenest newydd].

    Drwy ddarparu gwybodaeth i gefnogi pobl i wneud mwy drostynt eu hunain, gall awdurdodau lleol greu dyfodol mwy gwydn lle mae cymunedau'n penderfynu ar y materion mawr y maent yn eu hwynebu ac yn gwneud mwy drostynt eu hunain.

    Nod ein harolwg yw darganfod beth sy'n gwneud ein cymunedau'n lleoedd y maent, a pha mor wydn ydynt. Yr ydym am glywed y pethau y mae cymunedau wedi'u gwneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf y mae pobl yn falch ohonynt, ac y gall eraill ddysgu ohonynt.

    Rydym hefyd am gael gwybod beth arall y mae angen i awdurdodau lleol ei wneud i gefnogi'r cyhoedd i allu gwneud mwy drostynt eu hunain.