Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

A yw'r GIG yn ymateb i'r pwysau yn y system Gofal Heb ei Drefnu?

29 Gorffennaf 2022
  • Yn dilyn ein blog a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022, Gofal heb ei drefnu yng Nghymru - system o dan bwysau cynyddol, rydym yn darparu diweddariad ar ble fydd ein ffocws wrth symud ymlaen, a'r dull gweithredu ar gyfer y gwaith hwnnw. 

    Disgrifiodd ein blog yr heriau niferus a sylweddol sy'n cael eu profi ar hyn o bryd gan y system gofal heb ei drefnu yng Nghymru.  

    Mae pwysau o fewn y system ehangach yn golygu bod heriau sylweddol ar hyn o bryd o ran rhyddhau cleifion o'r ysbyty ac mae hynny'n cael sgil-effaith ar gyfer "llif cleifion", gan arwain at adrannau brys gorlawn ac oedi wrth drosglwyddo gofal o ambiwlansys sef y gwaethaf erioed.   

    Mae'r effaith i gleifion yn sylweddol gyda nifer yn wynebu amseroedd aros hir i gael eu gweld mewn adrannau brys ac oedi difrifol cyn derbyn ymateb ambiwlansys. Mae'r staff dan bwysau enfawr hefyd, ac yn methu darparu lefel y gwasanaeth maen nhw'n dyheu amdano.   

    Roedd ein blog yn nodi bwriad yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal rhaglen waith a fydd yn asesu i ba raddau y mae'r system a'i strwythurau arweinyddiaeth yn ymateb i'r pwysau yn y system ofal heb ei drefnu. Mae ein Hofferyn Data Gofal Heb ei Drefnu [yn agor mewn ffenestr newydd] hefyd yn darparu gwybodaeth am sut mae'r system yn perfformio ar draws ystod o ddangosyddion allweddol.  

    Mae'r diweddariad hwn yn rhoi mwy o wybodaeth am y meysydd y bydd ein gwaith gofal heb ei drefnu yn canolbwyntio arnynt, a'r amserlen a'r dull gweithredu ar gyfer y gwaith hwnnw.   

     

    Ein ffocws  

    Yng nghyd-destun lansiad Llywodraeth Cymru o'i Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng [yn agor mewn ffenestr newydd], ac yn gysylltiedig â chyllid ychwanegol o £25 miliwn bob blwyddyn, bydd ein gwaith yn archwilio nifer o wahanol elfennau o'r system gofal heb ei drefnu:  

    • Rhan 1 - llif cleifion o'r ysbyty. Bydd yr elfen hon yn archwilio'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y GIG a'i bartneriaid ym maes gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cleifion sy'n addas yn feddygol yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn brydlon. Bydd sylw penodol yn cael ei roi i swyddogaeth y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a defnyddio arian ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, er enghraifft, y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.  
    • Rhan 2 – mynediad at wasanaethau gofal heb ei drefnu. Bydd yr elfen hon yn edrych ar sut mae'r system yn rheoli'r galw am ofal heb ei drefnu a sicrhau bod pobl yn cael mynediad at ofal sy'n addas at eu hanghenion. Bydd sylw penodol yn cael ei roi i ba mor dda mae 111, 'ffoniwch yn gyntaf' a threfniadau 'gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod (SDEC)' yn gweithio mewn ardaloedd lleol.  
    • Rhan 3 – trefniadau cenedlaethol. Bydd yr elfen hon yn edrych ar sut mae'r trefniadau ar gyfer goruchwylio cenedlaethol a chomisiynu cydweithredol yn rheoli risg a sbarduno newid. Bydd sylw penodol yn cael ei roi i'r Bwrdd Chwe Nod sydd newydd ei sefydlu, ac rydym hefyd yn cynnwys ffocws ar y swyddogaeth a gyflawnir gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys wrth lunio gwella gwasanaethau.  

     

    Amserlen ac adrodd  

    Rydym yn bwriadu adrodd canfyddiadau Rhan 1 o'n gwaith yn ystod hydref 2022. Gyda Rhannau 2 a 3 yn cael eu hadrodd yn rhan gynnar 2023.  

    Byddwn yn cymhwyso cymysgedd o adrodd lleol a chenedlaethol i sicrhau bod ein canfyddiadau ac unrhyw argymhellion sy'n dod i'r amlwg wedi'u targedu at y cynulleidfaoedd a'r strwythurau llywodraethu priodol.  

    Am ragor o fanylion am yr astudiaeth hon, cysylltwch â post@archwilio.cymru