Beth rydyn ni'n ei wneud
Astudiaeth o sut mae cynghorau a'u partneriaid yn gweithio i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am lety dros dro. Bydd hefyd yn ystyried goblygiadau ariannol presennol ac yn y dyfodol i gynghorau ac yn asesu a oes cyfleoedd i wella gwerth am arian yn narpariaeth cynghorau o lety dros dro.
Pam rydyn ni'n ei wneu
Mae’r galw am lety dros dro wedi codi’n aruthrol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd ein gwaith yn egluro’r gost a’r cynnydd yn y galw am lety dros dro a chynlluniau cynghorau i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Byddwn yn rhoi sicrwydd ynghylch sut y caiff arian cyhoeddus ei wario i fynd i’r afael â’r angen am lety dros dro, yn darparu tystiolaeth ynghylch lle mae angen newid, ac yn tynnu sylw at gyfleoedd i wella gwerth am arian.
Pryd fyddwn ni'n adrodd
Haf 2025