Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Kevin Thomas
Ganed Kevin Thomas yn Bramhall ger Manceinion. Mynychodd Kevin Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn cyn mynd i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Ar ôl graddio ym 1988 gyda gradd mewn Mathemateg Bur a Chyfrifeg, gweithiodd Kevin fel cyfrifydd dan hyfforddiant i Gyngor Bwrdeistref Metropolitan Sefton am ddwy flynedd cyn symud i Gyngor Sir Clwyd. Tra'n gweithio yno cwblhaodd Kevin ei hyfforddiant gyda'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ac ef yw'r unig fyfyriwr, yn hanes y Cyngor, i lwyddo yn ei arholiad CIPFA y tro cyntaf. Mae Kevin yn aelod o gynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus CIPFA ers y cychwyn.
Ymunodd Kevin â'r Archwiliad Dosbarth yn 1992 a chyflawnodd nifer o rolau gyda phortffolios a oedd yn cynnwys gwaith archwilio ariannol mewn llywodraeth leol, y GIG, yr Heddlu a pharciau cenedlaethol. Hefyd cyflawnodd waith gwerth am arian ar bynciau megis rheoli'r amgylchedd ac arbedion effeithlonrwydd.
Yn dilyn ei ddyrchafiad fel Partner Ymgysylltu, roedd Kevin yn gyfrifol am archwilio Awdurdod Unedol, tair o ymddiriedolaethau'r GIG, bwrdd iechyd lleol ac Estyn. Roedd ganddo ran bwysig hefyd ym mhrosiect Cyfnewidfa Arfer Da SAC, gan weithio ar bynciau megis 'Creu'r Cysylltiadau' a phrosiect rheoli asedau a enillodd wobr CIPFA.
Penodwyd Kevin yn Gyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol yn Swyddfa Archwilio Cymru yn 2014. Mae'n aelod o Fwrdd a Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol SAC, ac yn Gadeirydd y Tîm Arweinyddiaeth Galluogwyr Corfforaethol, y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch a'r Grŵp Llywio Cydraddoldeb, ac mae ei rôl yn cynnwys goruchwylio'r gwaith o ddatblygu strategaeth corfforaethol SAC a'i chyflawni, yn ogystal â rhedeg swyddogaethau galluogi'r sefydliad: Cynorthwyo'r Bwrdd, Gwasanaethau Busnes, Cyfathrebu, TGCh, Y Gyfraith a Moeseg, a Chynllunio ac Adrodd.
Mae Kevin yn briod, mae ganddo ddau o blant, ac mae'n byw gyda'i deulu yng Ngogledd. Mae'n frwd am gadw'n heini ac mae wedi cyflawni nifer o rasys 10 cilomedr a hanner marathonau. Y cyflawniad a roddodd y boddhad mwyaf i Kevin oedd gorffen Marathon Llundain yn 2006 mewn llai na thair awr a hanner. Fodd bynnag, mae bellach yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser hamdden, naill ai'n beicio neu yn y gampfa.
Mae Kevin yn hoff iawn o ffilmiau ac mae hefyd yn gasglwr cerddoriaeth brwd. Mae'n mynd i weld cerddoriaeth fyw mor aml â phosibl, yn arbennig Indigo Girls.