Cyfarwyddwyr

Dave Thomas

Example image

Ganwyd Dave Thomas yn Abertawe a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Olchfa.

Aeth i'r Coleg yng Nghaerdydd a graddiodd o Brifysgol Cymru gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Gwyddorau Bywyd Cymhwysol yn 1986. Treuliodd Dave chwe blynedd yn dilyn gyrfa mewn ymchwil feddygol ac enillodd ddoethuriaeth o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru yn 2002. Yn ystod y cyfnod hwnnw cyhoeddodd nifer o bapurau mewn cyfnodolion meddygol a adolygir gan gymheiriaid a chyflwynodd ei waith mewn nifer o leoliadau yn y DU a ledled y byd.

Gadawodd Dave waith ymchwil y tu ôl iddo ym 1992 i ymgymryd â rôl Swyddog Polisi yn Ysgrifenyddiaeth Gwasanaethau Iechyd Cymru, corff a gynorthwyai waith Cadeiryddion a Phrif Weithredwyr cyrff y GIG yng Nghymru. Ym 1994 ymunodd Dave â'r Gwasanaeth Archwilio Dosbarth fel arbenigwr Gwerth am Arian, a daliodd nifer o swyddi yn y Gwasanaeth Archwilio Dosbarth a'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru cyn trosglwyddo i Swyddfa Archwilio Cymru pan gafodd ei sefydlu yn 2005.  

Cafodd ei benodi i rôl Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2008 ac ar hyn o bryd ef yw'r Cyfarwyddwr â chyfrifoldeb dros dîm Archwiliadau Perfformiad y GIG, a'r swyddogaeth Datblygu Perfformiad ac Arweiniad. Ef hefyd yw'r arweinydd ymgysylltu ar gyfer ein gwaith ymgysylltu ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Mae Dave yn byw yng Nghaerdydd gyda'i bartner a'u tri o blant.  Y tu allan i'r gwaith mae'n gweithredu fel ynad a phan fydd amser ac arian yn caniatáu hynny, mae'n mwynhau teithio, coginio, garddio a gwylio chwaraeon.