Cyfarwyddwyr

Matthew Mortlock

Example image

Mae Matthew wedi bod yn Gyfarwyddwr Archwilio ers mis Gorffennaf 2014 ac mae ganddo dros ddau ddegawd o brofiad o gyflawni ac arwain gwaith archwilio perfformiad sy'n rhychwantu'r ystod lawn o feysydd polisi datganoledig.

Mae'n arwain y timau 'astudiaethau cenedlaethol' ac 'astudiaethau ymchwiliol'. Mae canlyniadau archwiliad gwerth am arian gan y timau hynny - gan gynnwys gwaith mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Aelodau'r Senedd, ASau a'r cyhoedd - yn sail i lawer o waith Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd (PAPAC). Mae rôl Matthew yn cynnwys goruchwylio ein perthynas waith â'r PAPAC. Mae hefyd yn cynnwys goruchwylio ein cydlyniad o'r Fenter Twyll Cenedlaethol yng Nghymru a gwaith paru data penodol eraill.

Symudodd Matthew i Gaerdydd fel myfyriwr yn 1992, gan ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a gradd Meistr mewn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd. Dechreuodd ei yrfa mewn rolau ymchwil academaidd ac yna fel rheolwr ymchwil a gwerthuso Cyngor Chwaraeon Cymru (Chwaraeon Cymru). Yn 2002, cafodd ei PhD, ar ôl archwilio rhwystrau i gymhwyso systemau rheoli hylendid bwyd mewn mentrau bach a chanolig ledled diwydiant bwyd y DU. Ymunodd â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol [Cymru] tua'r un pryd.

Wrth weithio i Archwilio Cymru, mae Matthew hefyd wedi cael cymorth i astudio ar gyfer Diploma mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus trwy Brifysgol Caerdydd a Thystysgrif CIPFA mewn Ymarfer Ymchwiliol.

Mae Matthew yn dal i fyw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a’i ddwy ferch. Mae ganddo hefyd brofiad fel cyn-ymddiriedolwr elusennol yr Amelia Methodist Trust Company Cyf.