Cyfarwyddwyr

Anthony Veale

Example image

Ganwyd Anthony yn Aberdâr yng Nghwm Cynon. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun y Bechgyn yn Aberdâr cyn mynychu Prifysgol Abertawe i gwblhau ei radd mewn Economeg ym 1990.

Yn syth o’r coleg, ymunodd Anthony ag Ernst and Young yng Nghaerdydd, lle bu’n gweithio am dair blynedd yn eu Hadran Ansolfedd. Yna, ymunodd â BDO Binder Hamlyn ble bu’n astudio a ble daeth yn aelod o’r Gymdeithas Siartredig o Gyfrifwyr Ardystiedig (ACCA) ym 1995.

Yn dilyn secondiad, ymunodd Anthony ag Archwiliad Dosbarth ym 1996 (cyn iddo newid i’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru) lle bu’n gweithio fel Rheolwr Archwilio Technegol. Yn 2003, ymunodd Anthony â PricewaterhouseCoopers fel Uwch Reolwr yn eu hadran sector cyhoeddus cyn symud i Swyddfa Archwilio Cymru yn 2008.

Mae Anthony yn Gyfarwyddwr Archwilio Ariannol, gyda phortffolio eang o archwiliadau ar draws Gymru gyfan, gan gynnwys Llywodraeth ganolog, Llywodraeth leol a’r GIG. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Busnes ar gyfer yr Adran gyda chyfrifoldeb dros adnoddau a rheolaeth ariannol. O fewn Swyddfa Archwilio Cymru, mae Anthony yn aelod gweithgar o'r Uwch Dîm Arweiniol ac yn arwain ar nifer o fentrau corfforaethol.

Drwy gydol ei yrfa, mae Anthony wedi ymgymryd ag amrywiaeth o swyddi ac wedi mwynhau'r heriau o reoli portffolio amrywiol o gleientiaid ar draws y GIG, Llywodraeth ganolog a Llywodraeth leol. Un rôl benodol iddo ei mwynhau yn ystod ei yrfa fu cefnogi prosiect rheoli newid sylweddol ar gyfer y Grŵp Technegol, er mwyn sicrhau gwelliannau o ran ein rheolaeth ariannol, llywodraethu corfforaethol a’n trefniadau rheoli perfformiad.

Tu allan i’w waith, mae Anthony yn hoff iawn o chwaraeon. Yn benodol, mae’n gefnogwr brwd ac angerddol o glwb pêl-droed Lerpwl. Mae Anthony yn briod ac mae ganddo ddwy ferch yn eu harddegau sy'n ei gadw’n brysur iawn.