Gweithio mewn partneriaeth: Dal y drych i fyny Cydnabyddir yn eang na ellir parhau i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus drwy ddefnyddio dull seilo traddodiadol. Felly, mae troi ar weithio mewn partneriaeth o ran gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion yn anochel. Er bod egwyddorion cyffredinol a gydnabyddir yn eang yn gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth, mewn gwirionedd, mae nifer o ffyrdd gwahanol o gyflenwi gwasanaethau rhwng cyrff statudol ac anstatudol.