Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Edrych Ymlaen Rydyn ni wedi bod yn ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) er mwyn meithrin dealltwriaeth o rôl archwilio wrth weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Fel rhan o'r ymgysylltu â CLlLC, cynhalion ni adolygiad o ba mor barod yw Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.