Cost methiant mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol

11 Chwefror 2025
  • Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn Chwefror 2024 (ar gael trwy'r ddolen yma [agor mewn tudalen wahanol]) yn nodi fod cost methiant mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol nid yn unig yn sylweddol o ran cost ymgynghoriaeth a gwasanaethau cyfreithiol, ond hefyd o ran y miloedd o oriau a dreulir gan lawer o wahanol gyrff cyhoeddus yn ymateb i'r materion sylfaenol.

    Ond daw'r effaith andwyol fwyaf o’r ffordd y gall y materion hyn dynnu sylw sefydliad odd ar ei amcanion craidd a'i wasanaethau ar gyfer y cyhoedd.

    Wrth i adnoddau ariannol a dynol gael eu hymestyn, mae'r risg y bydd methiant o ran llywodraethu a/neu fethiannau eraill i wasanaethau yn cynyddu. Nid yw hyn yn ymwneud â systemau a phrosesau yn unig; mae hefyd yn ymwneud ag ymddygiadau a phwysigrwydd dangos ymrwymiad clir i egwyddorion Nolan, sef Anhunanoldeb, Uniondeb, Gwrthrychedd, Atebolrwydd, Bod yn Agored, Gonestrwydd ac Arweinyddiaeth.

    Bob tro y bydd y cyhoedd yn gweld y math o fethiannau o ran ymddygiad a llywodraethu y mae Archwilio Cymru wedi adrodd amdanynt, mae ymddiriedaeth yn y rhai sy'n arwain ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei niweidio. Mae hynny, yn ei dro, yn ei gwneud hi'n anoddach ennill cefnogaeth y cyhoedd lle mae angen gwneud newidiadau mwy radical.

    Cyflwyniadau

    Title Size Link
    Gwersi o Fethiannau Llywodraeth Leol (Saesneg yn unig) 156.57 KB Link
    Felly, sut mae cyrraedd llywodraethu effeithiol? (Saesneg yn Unig) 484.13 KB Link
    Felly, sut mae cyrraedd llywodraethu effeithiol? Fersiwn y Gogledd (Saesneg yn Unig) 417.31 KB Link
    Methiant polisi a llunio polisi gyda Meddylfryd Weithredu (Saesneg yn unig) 603.42 KB Link
    Fedrwch chi fforddio peidio cymryd mantais o fuddion rheolaeth risg gwerth chweil? (Saesneg yn unig) 1.85 MB Link