Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu
Gan weithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Chomisiynydd y Gymraeg, bydd y digwyddiad hwn yn cynorthwyo ac yn ysbrydoli cyrff cyhoeddus i gofleidio amrywiaeth ddiwylliannol Cymru fodern a gweithio y tu hwnt i gydymffurfio a thuag at ragoriaeth.

Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu
Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg, ac sy'n annog pobl i ddod yn rhan o’u cymunedau lleol.
Mae’r Gymru fodern yn wlad â chyfoeth o gymunedau amrywiol, aml-ieithol a chymdeithas sy’n hybu a gwarchod diwylliannau Cymru, gan gynnwys yr iaith Gymraeg. Cymdeithas sy’n annog pobl i fod yn weithgar yn eu cymunedau trwy gelf, chwaraeon, addysg a hamdden.
Ymunwch â ni i ddathlu’r ffurfiau gwahanol ar Gymreictod yn y Gymru fodern, gan archwilio sut mae cymunedau yn cyfrannu at ‘Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.
Wedi'i ysbrydoli gan daith Cymdeithas Bêl-droed Cymru dros y ddegawd ddiwethaf, bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar sut mae mynd y tu hwnt i'r gofynion yn creu agwedd gadarnhaol a chynhwysol sy’n lluosogi llwyddiant.