Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Dyma recordiad o sesiwn Paned a Sgwrs gyda Jill Davies o CEIC.
Mae Jill Davies yn rheolwr Prosiect gyda Rhaglen Cymunedau Arloesi'r Economi Gylchol (CEIC).
Mae CEIC yn brosiect a ariennir yn llawn ac a arweinir gan ymarferwyr sy’n rhoi cyfleoedd i sefydliadau’r sector breifat a’r trydydd sector yn ninas-ranbarthau Prifddinas Caerdydd a Bae Abertawe.
Mae'r prosiect yn rhedeg gweithdai misol dros gyfnod o 6 mis er mwyn cefnogi busnesau yng Nghymru wrth iddynt ddatblygu eu dealltwriaeth o’r economi gylchol a chynlluniau arloesi er mwyn cefnogi cynlluniau twf glân a chyfrannu at uchelgais Sero Net Llywodraeth Cymru. Bydd y rhaglen yn cynnwys rhwydwaith o unigolion sy’n rhannu yr un feddylfryd o bob rhan o’r ardal. Bydd sefydliadau sy’n cymryd rhan yn datblygu cynlluniau a allai fod yn gymwys er mwyn denu nawdd arloesi gan Lywodraeth Cymru.
Gall busnesau gyflawni nifer o fuddion trwy fabwysiadu dull economi gylchol. Mae’r rhain yn cynnwys buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol, ochr yn ochr â’i rwymedigaethau cyfreithiol i leihau ei ôl troed carbon. Hyd yma mae dros 200 o sefydliadau wedi cymryd rhan.
Gallwch ddysgu mwy am ganlyniadau rhaglenni gweithdai CEIC drwy fynd i wefan CEIC.
Economi Gylchol
Mae cysyniad yr economi gylchol yn ceisio newid y ffordd y caiff deunyddiau eu trin: Symud o gylch llinol lle mae deunyddiau'n cael eu gwneud yn nwyddau sy'n cael eu defnyddio ac yn y pen draw yn cael eu taflu i un lle mae deunyddiau'n cael eu hailddefnyddio a'u haddasu at ddibenion gwahanol, a defnyddir llai o ddeunyddiau sydd newydd eu hechdynnu.
Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar gyfer economi gylchol: ‘Mwy nag Ailgylchu – strategaeth i wneud economi gylchol Cymru yn realiti’ y gellir ei darllen drwy ddilyn y ddolen hon.
Nod y strategaeth yw ysgogi arloesi o ran defnyddio deunyddiau, cynyddu’r gwaith o atal gwastraff ac ailddefnyddio, buddsoddi mewn seilwaith, hwyluso gweithredu cymunedol a busnes ac adeiladu ar record ailgylchu Cymru.
Mae CEIC yn rhan bwysig o gyflawni'r nod hwn drwy ysgogi arloesi a chreu'r amodau lle y gall ddod i'r amlwg a ffynnu.
Paned a Sgwrs
Mae sesiynau Paned a Sgwrs yn cynnig sesiwn hamddenol ar-lein lle gall cyfranogwyr ddysgu am rywbeth diddorol gyda rhywun diddorol. Mae natur hamddenol y sesiynau yn cynnig cyfle ar gyfer sgwrs a dysgu manwl, yn ogystal â chyfle i gwrdd â phobl newydd.