Pwyllgorau Archwilio: arferion effeithiol a chanllawiau poced ar effaith gadarnhaol

17 Chwefror 2025
  • Mae'r canllaw poced hwn yn crynhoi arferion effeithiol ar gyfer Pwyllgorau Archwilio.

    Mae trefniadau llywodraethu da yn rhan hanfodol o’r ffordd y mae sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu yn effeithiol ac yn darparu gwasanaethau sydd yn rhoi gwerth am arian ar gyfer pobl a chymunedau Cymru.

    Mae Pwyllgorau Archwilio yn gonglfeini er mwyn cefnogi llywodraethu da. Gyda phwysau sylweddol ar gyllid y sector cyhoeddus ar hyn o bryd ac wrth edrych tua’r dyfodol, mae mwy o angen am arferion effeithiol ac effaith gadarnhaol. Mae gan Bwyllgorau Archwilio rôl hanfodol wrth gyflawni hyn, ac mae eu perthynas ag archwilio allanol yn allweddol ar gyfer gwneud y mwyaf o'u heffeithiolrwydd.

    Title Size Link
    Pwyllgorau Archwilio: arferion effeithiol a chanllawiau poced ar effaith gadarnhaol 91.69 KB Link