Report cover image
Diffygion yn Nhrefniadau Llywodraethu a Phrosesau Penderfynu Cyngor Sir Penfro Mewn Perthynas ag Ymadawiad ei Brif Weithredwr blaenorol gyda Thaliad Terfynu
13 Ionawr 2022

Paratowyd yr adroddiad hwn er budd y cyhoedd yn unol ag Adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol er budd y cyhoedd wedi nodi diffygion sylweddol o ran llywodraethu a gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r ffordd yr ymdriniodd Cyngor Sir Penfro â thaliad ymadael a wnaed i'r Prif Weithredwr.

Roedd materion a ganfuwyd yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru er budd y cyhoedd yn cynnwys methiant i fynd i’r afael ag anawsterau mewn perthnasoedd rhwng aelodau a swyddogion a datrys yr anawsterau hynny, diystyru cyngor cyfreithiol allanol, methiant i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a phrosesau penderfynu gwael ac anhryloyw.

Mae’r Cyngor wedi gweithredu i wella’i drefniadau llywodraethu a’i brosesau penderfynu er bod angen llawer o waith o hyd. 

Mae yna wersi pwysig y gall pob cyngor eu dysgu o'r methiannau a nodir yn yr adroddiad

Related News

Roedd y broses a arweiniodd at daliad ymadael i Brif Weithredwr Cyngor Sir Penfro’n cynrychioli methiant difrifol mewn trefniadau llywodraethu

Hoffem gael eich adborth