Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae'r rhaglen frechu yng Nghymru wedi cael ei chyflwyno ar gyflymder sylweddol gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol ac o'r DU yn cydweithio i frechu cyfran sylweddol o boblogaeth Cymru. 

    Buom yn edrych ar siâp y rhaglen, sut mae'n perfformio, y ffactorau sydd wedi effeithio ar weithrediad y rhaglen hyd yma, a'r heriau a'r cyfleoedd o'n blaenau yn y dyfodol.

    Wrth lunio'r adroddiad hwn, cyfraddau brechu Cymru oedd yr uchaf o blith pedair cenedl y DU, ac roedd y cyfraddau hefyd ymhlith yr uchaf drwy'r byd. 

    Yr hyn a ddarganfuom

    Mae strategaeth frechu Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymhelliant cryf i yrru'r rhaglen yn ei blaen, ac mae'r holl gerrig milltir wedi'u cyrraedd hyd yma.

    ,
    Mae staff y gweithlu wedi bod yn gweithio 'y tu hwnt i'w dyletswydd' er mwyn bodloni'r galw am frechlynnau.
    ,

    Mae'r gyfradd sy'n derbyn brechlyn yn uchel, mae'r lefelau ymhlith rhai grwpiau ethnig ac mewn cymunedau difreintiedig yn is, ac mae'r nifer nad ydynt yn cyrraedd apwyntiadau wedi'u trefnu ar gynnydd.

    Ceir llawer o wersi i'w dysgu yn sgil y dull cadarnhaol a ddefnyddiwyd i weithredu'r rhaglen frechu hyd yma. Dylid ystyried cymhwyso'r gwersi hyn i strategaethau imiwneiddio ehangach, ac i'r broses o gynnal rhaglenni eraill yn GIG Cymru.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Mae Cymru wedi gwneud cynnydd rhagorol wrth frechu ei phoblogaeth yn erbyn COVID-19 ond nawr mae angen cynllun clir ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau

    View more
CAPTCHA