Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae ein hadroddiad yn nodi canfyddiadau ein hadolygiad lefel uchel o’r modd y mae GIG Cymru’n mynd i’r afael â’r ôl-groniad o ran cleifion sy’n aros am ofal wedi’i gynllunio.

    Mae’r ôl-groniad amseroedd aros yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu GIG Cymru, a wnaed yn llawer gwaeth gan COVID-19 a’r effaith y mae wedi’i chael ar gapasiti’r GIG. Ym mis Chwefror 2022, roedd bron i 700,000 o gleifion yn aros am ofal wedi'i gynllunio, cynnydd o 50% ers mis Chwefror 2020.

    Yr hyn a ganfuom

    Canfuom fod angen i GIG Cymru weithredu ar y cyd i fynd i’r afael â’r amseroedd aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio a bod angen gwneud mwy i osgoi niwed i gleifion tra’u bod yn aros am driniaeth.

    Yn ein hadroddiad, rydym yn canfod, er bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru’n mynd i fod yn hanfodol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad, na fydd hynny’n datrys y broblem ar ei ben ei hun. Bydd angen i GIG Cymru oresgyn rhai rhwystrau difrifol hefyd, megis prinderau staff a materion recriwtio hirdymor.

    Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi 5 argymhelliad yn seiliedig ar yr hyn y mae angen i Lywodraeth Cymru ei wneud wrth iddi roi ei chynllun cenedlaethol ar waith, sydd wedi’i fwriadu i drawsnewid a moderneiddio gofal wedi’i gynllunio.

    Rydym hefyd wedi cyhoeddi offeryn data amseroedd aros ochr yn ochr â’n hadroddiad sy’n bwrw golwg ar y gwahanol amseroedd aros ar gyfer gwahanol fyrddau iechyd.

     

    Mae'r data rydym yn ei ddefnyddio yn cyfeirio at lwybrau cleifion ac efallai y bydd gan glaf unigol fwy nag un cyflwr iechyd ac felly y bydd ar sawl llwybr. Mae hyn yn golygu bod nifer wirioneddol yr unigolion sy'n aros yn debygol o fod yn is.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Mae angen i GIG Cymru weithredu ar y cyd i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o ran amseroedd aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio

    View more
Centered hero example

Amseroedd Aros Dewisol y GIG

Mae’r offeryn data hwn yn bwrw golwg ar y gwahanol amseroedd aros ar gyfer gwahanol fyrddau iechyd

View Tool
CAPTCHA