Cyfarwyddwyr

Gareth Lucey

Example image

Yn Gyfrifydd Siartredig gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad, mae gyrfa Gareth wedi cynnwys amser yn Ffrainc, Canada ac Awstralia.

Fel Cyfarwyddwr Cyfrifon, Gareth sy'n goruchwylio'r gwaith o gyflawni portffolio o waith archwilio ar draws llywodraeth ganolog, llywodraeth leol a'r GIG. Mae hefyd yn ymwneud yn weithredol â'n rhaglen dan hyfforddiant, gan arwain adolygiadau o'n cynlluniau prentisiaeth a mynediad i raddedigion i ddatblygu arweinwyr cyllid sector cyhoeddus Cymru yn y dyfodol.

Wedi'i eni a'i fagu yng Nghaerffili, mynychodd Gareth Ysgol Gyfun St Martin cyn astudio am radd mewn Cyfrifeg gyda Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn siaradwr Ffrangeg rhugl, yn ystod ei radd treuliodd flwyddyn yn astudio yn yr École Supérieure de Commerce de Chambé ryyn Ffrainc.

Er ei fod wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa yn Archwilio Cymru a'i gyrff rhagflaenol, dechreuodd ei yrfa fel hyfforddai gyda'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Llundain. Yn 2011 symudodd i Vancouver, Canada i weithio gyda chwmni gwasanaethau ariannol a chafodd brofiad pellach yn Swyddfa'r Archwilydd Cyffredinol Victoria a Phrifysgol Melbourne yn Awstralia. Yn 2013 dychwelodd Gareth i Swyddfa Archwilio Cymru (Archwilio Cymru wedi hynny), gan weithio ar draws ein cyfrifon a'n gwaith archwilio perfformiad.

Mae Gareth yn byw yng Nghaerdydd ac yn briod gyda mab ifanc sy'n ei gadw'n brysur. Fodd bynnag, pan fydd ganddo ychydig o amser hamdden, mae ganddo docyn tymor ar gyfer Rygbi Caerdydd ac mae'n mwynhau beicio, sinema a choginio (gyda bwyd Eidalaidd yn arbenigedd). Mae hefyd yn dysgu Cymraeg.