Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Y digwyddiad hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau yn dilyn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ‘O ymdrin â heriau wrth iddynt godi i ddiogelu at y dyfodol: yr her i wasanaethau cyhoeddus Cymru', a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024.
Mae'r adroddiad yn nodi bod cost methiant mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol nid yn unig yn sylweddol o ran cost ymgynghoriaeth a gwasanaethau cyfreithiol, ond hefyd o ran y miloedd o oriau a dreulir gan lawer o wahanol gyrff cyhoeddus yn ymateb i'r materion sylfaenol.
Ond daw'r effaith andwyol fwyaf o’r ffordd y gall y materion hyn dynnu sylw sefydliad odd ar ei amcanion craidd a'i wasanaethau ar gyfer y cyhoedd.
Wrth i adnoddau ariannol a dynol gael eu hymestyn, mae'r risg y bydd methiant o ran llywodraethu a/neu fethiannau eraill i wasanaethau yn cynyddu. Nid yw hyn yn ymwneud â systemau a phrosesau yn unig; mae hefyd yn ymwneud ag ymddygiadau a phwysigrwydd dangos ymrwymiad clir i egwyddorion Nolan, sef Anhunanoldeb, Uniondeb, Gwrthrychedd, Atebolrwydd, Bod yn Agored, Gonestrwydd ac Arweinyddiaeth.
Bob tro y bydd y cyhoedd yn gweld y math o fethiannau o ran ymddygiad a llywodraethu y mae Archwilio Cymru wedi adrodd amdanynt, mae ymddiriedaeth yn y rhai sy'n arwain ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei niweidio. Mae hynny, yn ei dro, yn ei gwneud hi'n anoddach ennill cefnogaeth y cyhoedd lle mae angen gwneud newidiadau mwy radical.
Mae'r gyfres hon o ddigwyddiadau yn cynnwys y themâu canlynol:
Bydd rhagor o fanylion am y digwyddiadau hyn ar gael ar ein gwefan yn fuan. Byddwn yn anfon e-bost i'n rhestr bostio pan fydd hi’n bosib archebu. Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi siaradwyr eraill yn agosach at ddyddiad y digwyddiad, a fydd yn gyfle i ddysgu a rhannu profiadau gyda'ch cyfoedion.
Max Caller yw Prif Gomisiynydd Cyngor Birmingham ar hyn o bryd yn dilyn ei hysbysiad Adran 114 ym mis Hydref 2023.
Mae Max wedi gweithio mewn llywodraeth leol ers dros 50 mlynedd. Ef oedd Prif Weithredwr Bwrdeistref Hackney a Bwrdeistref Barnet yn Llundain.
Ef hefyd oedd Cadeirydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Lloegr.
Mae ganddo brofiad mewn llawer o ymyriadau cynghorau lleol, gan gynnwys:
Kate Carr yw sefydlydd Arc: Making the Difference and mae hefyd yn llysgennad Polisi a Llywodraethiant i Sefydliad y Cyfarwyddwyr.
Mae ei profiad o fod ar fwrdd yn cwmpasu cyrff cyhoeddus a'r sectorau tai a mentrau cymdeithasol.
Mae Kate yn gyn newyddiadurwraig i'r BBC sydd wedi adeiladu sgiliau sydd yn galluogi cyflawni ar draws pob sector. Bu Kate yn rhan o sefydlu Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, wedi gwasanaethu De CYmru fel Comisynydd Heddlu a Throsedd Cynorthwyol ac mae bellach yn Gynghorydd Sir.