Dyfodol Diamod 2023

24 Hydref 2023
Rhag 12 Dydd Mawrth
09:00
16:00
  • Archwilio Cymru
  • Tyndall Street
  • Caerdydd
  • CF10 4BZ
Audit wales office

About Dyfodol Diamod 2023

  • Ydych chi eisiau cael a chael mewnwelediad i'r heriau presennol sy'n wynebu darparu gwasanaethau cyhoeddus?

    Ydych chi eisiau clywed sut y gallem oresgyn yr heriau hyn? Ydych chi eisiau rhwydweithio a dysgu gan eich cyfoedion?

    Ymunwch â'n cynhadledd Cyllid ar gyfer y Dyfodol 2023!

    Byddwch yn mynychu prif areithiau a sesiynau llawn ar ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i chi - arweinwyr cyllid yfory. Dysgwch am rai o'r materion allweddol y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu, a pha mor hanfodol yw gweithwyr cyllid proffesiynol o ran ategu atebion arloesol ar gyfer darparu gwasanaethau. Byddwch hefyd yn ymuno â sesiynau sydd â'r nod o'ch arfogi â'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lywio gyrfa lwyddiannus.

    Yn dilyn adborth o'r llynedd, eleni bydd amser penodol ar gyfer rhwydweithio.

    Daw'r gynhadledd i chi gan y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid; partneriaeth sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau arwain cyllid ledled Cymru.

    Sut wyf i'n mynegi fy niddordeb?

    Fydd angen creu cyfrif gan ddefnyddio'r ddolen uchod i archebu lle ar y gynhadledd hon. Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif – cliciwch ar y digwyddiad i gofrestru ar gyfer y gynhadledd. Os na welwch y botwm mynychu'r digwyddiad , ewch yn ôl  i'ch gwahoddiad a chliciwch ar y ddolen eto. Byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost unwaith y byddwch wedi archebu lle ar y digwyddiad. Pan fyddwch yn ymrestru ar gyfer digwyddiad yr ydym wedi'i drefnu, rydym yn casglu gwybodaeth benodol amdanoch fel cynrychiolydd, hwylusydd neu gyfrannwr. Gall digwyddiadau gynnwys cynadleddau, ymgysylltu, neu gyfarfodydd a digwyddiadau eraill. I gael gwybod mwy, darllenwch ein Hysbysiad Prosesu Teg Digwyddiadau [agorir mewn ffenest newydd].

    Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu dosbarthu un i ddau ddiwrnod cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost gwaith wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch.

    Dalier sylw, bydd y gweminar yn cael ei recordio a'i storio ar YouTube i’w gwylio yn y dyfodol.

What to expect

  • Bydd cyfle hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau neu bryderon am waith yn y sector cyhoeddus yn yr hinsawdd sydd ohoni. Gofynnwch eich cwestiynau i'n siaradwyr a fydd yn eu hateb yn y fan a'r lle.
  • Byddwch yn mynychu prif areithiau a sesiynau llawn ar ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i chi - arweinwyr cyllid yfory.

Agenda

  • 51.4769966, -3.1696622

Speakers for the event

Cafodd Adrian Crompton ei argymell gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd i gael ei benodi’n Archwilydd Cyffredinol Cymru. Fe’i penodwyd yn ffurfiol i’r swydd gan Ei Diweddar Fawrhydi’r Frenhines ym mis Gorffennaf 2018. Fel pennaeth Archwilio Cymru, mae’n goruchwylio gwaith blynyddol i archwilio gwerth dros £26 biliwn o arian trethdalwyr ac adroddiadau ar faterion gwerth am arian ar draws sector cyhoeddus Cymru.

Mae Adrian wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa’n cefnogi democratiaeth seneddol ar lefel Cymru, y DU ac ar lefel ryngwladol. Cyn ei benodiad cyfredol, daliodd uwch rolau amrywiol yn y Senedd a, chyn hynny, yn Nhŷ’r Cyffredin. Treuliodd sawl blwyddyn yn darparu arbenigedd a chymorth ymarferol i uwch wleidyddion a gweision sifil wrth graidd prosiectau i feithrin trawsnewid democrataidd yn Swdan, Irac, yr Aifft a Gwlad Iorddonen.

Mae Adrian yn briod ac mae ganddo ddau o blant.

Adrian Crompton
Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cyn-Brif Gynghorydd Arbennig yn Llywodraeth Cymru, sydd bellach yn rhedeg ymgynghoriaeth gyfathrebu gan arbenigo mewn ysgrifennu areithiau, sgiliau cyflwyno a dylanwadu. Mae cleientiaid wedi cynnwys y Cenhedloedd Unedig, TEDx speakers, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru a Choleg y Gwasanaeth Sifil.

Matt Greenough
Cyfarwyddwr, Words Matter Ltd

Ar ôl 14 mlynedd mewn rolau dylunio, cyflawni ac arwain i ddarparwr Dysgu a Datblygu blaenllaw, mae Dawn bellach yn gweithio’n annibynnol ac wedi gwneud hynny ers 2015. Mae hi’n gweithio gyda sefydliadau mawr a bach, lleol a byd-eang. Nid yw popeth yn ei gyrfa wedi mynd fel a fwriadwyd, gyda dechrau sigledig iawn i’w gyrfa arweinyddiaeth, colli swydd a pheryglon hunangyflogaeth. Mae gwytnwch Dawn yn dal i fynd o nerth i nerth ond, o edrych yn ôl gyda synnwyr trannoeth, efallai y byddai meithrin ei gwytnwch fel arfer beunyddiol wedi bod yn haws na’r gromlin ddysgu serth a ddilynodd ar adegau!

Mae gan Dawn nifer o rolau gwirfoddol gan gynnwys bod yn Llywodraethwr Ysgol, yn wirfoddolwraig mewn Canolfan Gymunedol ac yn fentor sy’n gweithio am ddim gyda phobl sy’n wynebu rhwystrau i ailymuno â byd gwaith. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn morio canu fel rhan o Gôr Roc.

Dawn Smart
Hyfforddwraig, Eliesha Training

Mae Andy yn frwd dros arweinyddiaeth, datblygiad personol a datblygu sefydliadol. Mae wedi arwain timau mewn amgylcheddau amrywiol a’r rheiny’n aml yn rhai a oedd yn newid bywydau. Mae’n hyfforddi ar lefel Bwrdd ac mae ganddo gefndir gweithredol cyfoethog gan gynnal ffocws strategol. Fel Cyn-Brif Uwcharolygydd Heddlu a chanddo yrfa lwyddiannus ym maes gorfodi’r gyfraith, mae wedi dangos sut y gall y sgiliau y mae wedi’u caffael gael eu trosglwyddo i’r sector cyhoeddus ehangach ond, yr un mor bwysig, i’r sector masnachol a phreifat.  Mae wedi arwain ar newid, ysgogi gwelliant ac wedi cefnogi uwch arweinwyr trwy drawsnewid a newid diwylliannol sylweddol.

Arweiniodd ar gyfres o fodiwlau rheoli trawsnewid/arwain newid ar gyfer y GIG yn ne-ddwyrain Cymru ac mae’n parau i hyfforddi ar lefel Bwrdd ar gyfer y GIG yn Lloegr ac yng Nghymru. 

Dyfarnwyd MBE iddo am ei wasanaethau i faes gorfodi’r gyfraith a diogelu’r cyhoedd yn 2013, ac yn 2019 fe’i cydnabuwyd yn Gydymaith y Sefydliad Arweinyddiaeth. Mae wedi cael ei benodi i Banel Cynghori Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) Llywodraeth Cymru (2020).

Andy Adams
Hyfforddwr, Eliesha Training

Mae David yn un o Gyfarwyddwyr HTFT Partnership, cwmni hyfforddiant ar-lein arloesol, a ysgogir gan dechnoleg. Mae ganddo fwy na 30 mlynedd o brofiad o baratoi myfyrwyr i lwyddo mewn arholiadau cyfrifyddiaeth. Mae wedi addysgu yn Tsieina, Singapôr, Malaysia, Sri Lanka, Llundain a’i annwyl Gymru! Mae David hefyd wedi gweithio’n helaeth i gyrff arholi cyfrifyddiaeth; yn ysgrifennu, cyflwyno, marcio ac arholi.

Yn ei amser sbâr mae David yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu, cerdded, darllen a chwarae a gwylio chwaraeon.

David Evans
Cyfarwyddwr, HTFT Partnership

Mae Steve yn archwilydd perfformiad a rheolwr yn nhîm Dadansoddeg Data a thîm Astudiaethau Cenedlaethol Archwilio Cymru.

Bu’n gweithio’n flaenorol fel newyddiadurwr ar bapur newydd dyddiol. Y tu allan i’r gwaith, mae Steve yn mwynhau chwaraeon gan gynnwys beicio, rhedeg, triathlon a chriced.

Steve Lisle
Rheolwr Archwilio, Archwilio Cymru

Mae Cadi yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles – rhaglen cynhwysiant digidol cenedlaethol caffael Llywodraeth Cymru.

Cyn hynny bu'n gweithio ym maes tai a digartrefedd, yn ogystal â thramor i rymuso llywodraethu da. Mae Cadi yn treulio ei holl amser rhydd yn yr awyr agored, naill ai i fyny mynyddoedd neu mewn dŵr oer.

Cadi Cliff
Rheolwr y Rhaglen, Cwmpas

Dechreuodd Nicola weithio yn y GIG yn 1991 fel hyfforddai rheoli cyllid.  Ers cymhwyso ym 1995 fel Cyfrifydd Siartredig gyda CIPFA, mae hi wedi dal nifer o swyddi cyllid uwch ar draws De Cymru, gan gynnwys 16 mlynedd yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Ar ôl ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn 2014, i ddechrau fel Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol, aeth Nicola ymlaen yn gyflym i gael ei phenodi i rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio, Digidol a TG yn 2015 ac yn fwy diweddar cymerodd rôl Dirprwy Brif Weithredwr.

Arweiniodd Nicola y Rhaglen Dyfodol Clinigol ar draws ardal y Bwrdd Iechyd ac agor Ysbyty Athrofaol Grange yn 2020. Mae hi'n angerddol am wella gwasanaethau'n barhaus a sicrhau bod cleifion a'r cyhoedd wrth wraidd ein cynllunio. Mae Nicola hefyd yn eiriolwr cryf dros ddatblygiad personol a hyfforddiant i sicrhau bod staff mewn sefyllfa dda ac yn llawn cymhelliant i gyflawni'r heriau o weithio i'r GIG.

Cafodd Nicola ei phenodi'n Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2022.

Yn falch o weithio a byw yng Nghymru, mae Nicola yn mwynhau treulio amser gyda'i theulu a'i ffrindiau.

Nicola Prygodzicz
Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dechreuodd Amanda ei gyrfa nyrsio yn y GIG ym 1992. Bu’n gweithio am nifer o flynyddoedd ar y rheng flaen fel nyrs gofal critigol yng Nghymru a Lloegr a hefyd o fewn gofal sylfaenol fel Ymwelydd Iechyd yn cefnogi teuluoedd mewn ardaloedd o amddifadedd uchel.  

Mae Iechyd y Boblogaeth a gofal iechyd ataliol yn rhywbeth y mae’n poeni’n angerddol amdano. Ar ôl hynny symudodd i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yno daeth yn arweinydd ymgysylltu a gweithiodd fel rhan o dîm sydd wedi ennill sawl gwobr, a chydnabyddiaeth ryngwladol am ei ddull arloesol o ailddefnyddio dodrefn swyddfa.  

Yn 2019, symudodd Amanda i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yn ystod ei chyfnod yno sefydlodd Fferm Amaethyddol â Chymorth Cymunedol (CSA) yn Ysbyty Treforys a hefyd y fenter Tlodi Gwelyau.  

Eleni, enwodd Sophie Howe, y Comisiynydd WFG sy'n gadael, Amanda yn un o 100 o Wneuthurwyr Newid Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. 

Ym mis Ebrill 2023 dechreuodd Amanda secondiad 2 flynedd gyda Llywodraeth Cymru fel Pennaeth yr Economi Sylfaenol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ei rôl yw gweithio gyda Byrddau Iechyd a darparwyr Gofal Cymdeithasol ledled Cymru a chefnogi sut y gall eu rôl ddylanwadu’n gadarnhaol ar yr amodau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i gefnogi pobl a chymunedau iach a ffyniannus.  

Amanda Davies
Pennaeth yr Economi Sylfaenol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Ar ôl ymuno â GIG Cymru yn 1990 fel Hyfforddai Rheoli Ariannol a Chyfrifeg cenedlaethol, mae Rebecca wedi dal nifer o swyddi ar draws De Cymru.  Mae'r rhain yn cynnwys bod yn Gyfarwyddwr Cyllid dau Fwrdd Iechyd am gyfuniad o 14 mlynedd. 

Fel Cadeirydd Fforwm Cyllid Cyfarwyddwyr GIG Cymru Gyfan, cefnogodd yn weithredol greu Academi Cyllid GIG Cymru, gan gymryd arweinyddiaeth bersonol y Rhaglen Bartneriaeth. 

Wedi'i phenodi'n Gyfarwyddwr Academi Cyllid GIG Cymru ym mis Mawrth 2017, mae Rebecca wedi arwain yr Academi arobryn i greu nifer o raglenni datblygu arloesol gyda'r uchelgais parhaus o fod yn flaenllaw yn natblygiad staff a swyddogaethau cyllid GIG Cymru. 

Rebecca Richards
Cyfarwyddwr Academi Cyllid GIG Cymru

Ar y cychwyn, roedd Peter yn gweithio yn y diwydiant gwasanaethau ariannol a chymhwysodd fel Addasydd Colled Siartredig ym 1995 gan arbenigo mewn ymchwilio ac archwilio colledion ariannol masnachol fel twyll, colli elw a rhwymedigaethau cyfreithiol. Cafodd ei ethol yn Gymrawd Sefydliad Siartredig yr Addaswyr Colled yn 2001.

Ymunodd Peter â Thollau Tramor a Chartref EM fel swyddog ymchwilio ariannol arbenigol yn 2001 a chafodd ei secondio i Dîm amlasiantaeth Troseddau Economaidd Rhanbarthol Cymru, yn 2004. Yn 2006 trosglwyddodd ei swydd i’r Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCA) a ddaeth yn ddiweddarach yn Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA).

Mae Peter wedi’i achredu gan y Ganolfan Enillion Troseddau (NCA) fel Ymchwilydd Ariannol a gan Heddlu Dinas Llundain fel Ymchwilydd Twyll Arbenigol.

Yn ystod ei yrfa, mae Peter wedi ymdrin ag amrywiaeth eang o dwyll cymhleth, gwyngalchu arian ac achosion llwgrwobrwyo/llygredd ledled y DU a thramor. Mae’n aelod o’r Cadre Tystion Arbenigol Gwyngalchu Arian Cenedlaethol ac mae wedi cefnogi nifer o wahanol asiantaethau ac wedi ymddangos yn Llysoedd yr Ynadon a’r Goron ledled Cymru a Lloegr yn rhoi tystiolaeth arbenigol ym maes troseddau economaidd. Mae hefyd wedi briffio swyddogion y llywodraeth ac asiantaethau eraill ar fygythiadau troseddau economaidd i’r DU.

Yn 2018, trosglwyddodd Peter i Heddlu Gwent ac ar hyn o bryd mae’n Dditectif Ringyll yn goruchwylio’r Tîm Troseddau Ariannol.

Peter Matthews
Ditectif Ringyll, Goruchwyliwr Tîm Troseddau Ariannol, Heddlu Gwent

Ymunodd Alison ag ICAEW yn 2020 a hi yw Cyfarwyddwr y tîm Sector Cyhoeddus, sy'n ategu aelodau sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus a chydag ef, i gyflawni blaenoriaethau cyhoeddus a chyllid cyhoeddus cynaliadwy. Mae ICAEW yn ymgysylltu â llunwyr polisi, gweision cyhoeddus ac eraill i hyrwyddo'r angen am reolaeth ariannol, archwilio a sicrwydd, adrodd ariannol a llywodraethu a moeseg effeithiol ar draws y sector cyhoeddus i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n ddoeth.

Ar ôl cwblhau gradd yn y gyfraith a chymhwyso gyda chwmni cyfrifyddiaeth canolig ei faint, bu'n gweithio'n ymarferol am nifer o flynyddoedd cyn ymuno â CThEM ym 1994. Treuliodd 25 mlynedd yno lle roedd ganddi swydd Cyfrifydd Ymgynghorol y Comisiynwyr.

Cyfarwyddwr Treth yn ICAEW yw Alison hefyd.

Alison Ring, OBE
Cyfarwyddwr y Secor Cyhoeddus a Threthiant, ICAEW

Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn ymuno â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, ac wedyn Archwilio Cymru, lle mae hi wedi mwynhau gyrfa amrywiol fel cyfrifydd CIPFA yn ymgymryd â gwaith archwilio ariannol a pherfformio.

Ym 1999, daeth yn Ysgrifennydd Preifat i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyntaf, gan sefydlu ei swyddfa yng Nghaerdydd a gweithio ar brotocolau datganoli newydd.

Ann-Marie yw cadeirydd y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid – cydweithrediad Cymru gyfan o gyrff cyhoeddus sy'n hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd gyrfa mewn cyllid cyhoeddus.

Yn 2016 enillodd Wobr fawreddog Merched mewn Arweinyddiaeth Cymru.

Ym mis Mawrth 2021 penodwyd Ann-Marie yn Gyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio yn Archwilio Cymru, lle mae hi'n arweinydd proffesiynol ar gyfer yr holl waith archwilio ac ar gyfer datblygu perthnasoedd strategol a phroffesiynol gyda rhanddeiliaid a'r proffesiwn ehangach.

Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr gyda Chyngor ar Bopeth, yn aelod o'u Pwyllgor Archwilio a Risg ac yn Gadeirydd eu Pwyllgor Cynghori i Gymru.

Ann-Marie Harkin
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio, Archwilio Cymru

Ymunodd Amy ag Archwilio Cymru yn 2015 fel hyfforddai graddedig ar ôl cwblhau ei gradd Llenyddiaeth Saesneg a'i gradd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae swyddogaethau Archwilio Cymru yn cynnwys archwilio cyfrifon a gwneud gwaith archwilio perfformiad lleol mewn ystod eang o gyrff cyhoeddus, ochr yn ochr â chynnal rhaglen o arholiadau ac astudiaethau gwerth am arian cenedlaethol i archwilio gwariant cyhoeddus.  

Cymhwysodd Amy fel Cyfrifydd Siartredig yn 2018 ac mae hi bellach yn Arweinydd Archwilio yn y tîm Datblygu Archwilio ac Arweiniad. Yn fwyaf diweddar, mae hi wedi arwain ar ddatblygu a gweithredu dull archwilio cyfrifon diwygiedig Archwilio Cymru mewn ymateb i newidiadau sylweddol i Safonau Rhyngwladol ar Archwilio.  

Mae Amy yn golffiwr brwd ac yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Lerpwl.

Amy Lord
Archwilydd Arweiniol, Archwilio Cymru

Ymunodd Aneesa ag Archwilio Cymru yn 2016 fel hyfforddai graddedig ar ôl cwblhau ei gradd Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Abertawe.  Mae swyddogaethau Archwilio Cymru yn cynnwys archwilio cyfrifon a gwneud gwaith archwilio perfformiad lleol mewn ystod eang o gyrff cyhoeddus, ochr yn ochr â chynnal rhaglen o arholiadau ac astudiaethau gwerth am arian cenedlaethol i archwilio gwariant cyhoeddus. 

Mae Aneesa yn aelod o'r Pwyllgor Ansawdd Archwilio ac yn fwyaf diweddar mae wedi arwain ar weithredu safonau rheoli ansawdd rhyngwladol sydd newydd eu cyflwyno. 

Aneesa Ali
Archwilydd Arweiniol, Archwilio Cymru

Ar ôl dechrau fy ngyrfa fel Dadansoddwr Busnes yn y sector preifat, ymunais â'r Gwasanaeth Sifil ar raglen dan hyfforddiant graddedigion yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Fe wnes i gwblhau fy arholiadau a hyfforddiant cyfrifeg proffesiynol tra yn y DVLA, gan ennill profiad ar draws y swyddogaeth Cyllid cyn gadael am rôl y Cyfarwyddwr Rhanbarthol yn ONS. Mae fy uchelgais gyrfa wedi'i wreiddio mewn gwasanaeth cyhoeddus ac rwy'n credu'n gryf bod rôl Cyllid o fewn unrhyw sefydliad yn amlweddog - i ddiogelu, galluogi a chynghori.

Rhys Thomas
Cyfarwyddwr Rhanbarthol – Cyllid, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Register for this event
About You
Name
In person event details