Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Anableddau Cudd Blodyn yr Haul

26 Mehefin 2025
  • Mae Archwilio Cymru yn falch o gyhoeddi ei fod wedi ymuno ag ‘Anableddau Cudd Blodyn yr Haul’, sef, Hidden Disabilities Sunflower, menter a gydnabyddir yn fyd-eang sy'n cynorthwyo unigolion ag anableddau nad ydynt yn weladwy.

    Mae'r aelodaeth hon yn gam arwyddocaol yn ein hymrwymiad i fod yn sefydliad enghreifftiol, gan feithrin cynhwysiant a sicrhau bod pawb—waeth beth fo'u hanabledd—yn cael eu hadnabod, eu deall a'u cynorthwyo.

    Sefydlwyd Hidden Disabilities Sunflower i gynorthwyo unigolion â chyflyrau nad ydynt efallai yn weladwy ar unwaith, fel awtistiaeth, salwch cronig, namau synhwyraidd, a heriau iechyd meddwl. Mae symbol Blodyn yr Haul yn darparu ffordd gynhwysol i unigolion nodi y gallai fod arnynt angen gymorth, amynedd neu ddealltwriaeth ychwanegol mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd. Mae hyn yn cynnwys ein gweithwyr a'n rhanddeiliaid.

    Trwy ein haelodaeth, byddwn yn integreiddio'r fenter Blodyn yr Haul yn weithredol i'n bywyd bob dydd gan sicrhau bod ein gweithwyr yn cael eu haddysgu am anableddau nad ydynt yn weladwy ac y bydd unrhyw un sy'n gweithio i’n llefydd gwaith, gyda hwythau neu’n ymweld â hwythau yn cael eu croesawu a'u cynorthwyo mewn ffordd sy'n eu helpu i fod y gorau y gallant.

    Mae Blodyn yr Haul yn adlewyrchu ein hymddygiadau HYDER(us) sy'n llywio popeth a wnawn.

    Credwn fod pawb yn elwa o weithle niwrogynhwysol ac mae'n gyfrifoldeb arnom i adeiladu ar ein hymroddiad i wneud mannau sy'n gyfeillgar o ran Blodyn yr Haul sy'n groesawgar ac yn hygyrch i bawb.

    ,
    Yn Archwilio Cymru, ein nod yw sicrhau, esbonio ac ysbrydoli ac mae hyn yn llywio popeth yr ydym yn ei wneud. Rydym yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y mae'r gwahaniaeth yn ei wneud, ac rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol, sy'n canolbwyntio ar y person i bawb. Trwy ymuno â rhwydwaith Hidden Disabilities Sunflower, rydym yn cymryd cam arall tuag at sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cynorthwyo a'u deall." Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,
    Rydym yn falch iawn o groesawu Archwilio Cymru i'r rhwydwaith cynyddol o aelodau Hidden Disabilities Sunflower. Mae cynorthwyo gweithwyr ag anableddau nad ydynt yn weladwy yn cyfrannu at weithle diogel a sicr, sy'n cyd-fynd â gwerthoedd Archwilio Cymru. Mae Blodyn yr Haul yn gatalydd ar gyfer sgyrsiau am anabledd ac yn gam allweddol tuag at gynhwysiant o ran anableddau. Paul White, Prif Swyddog Gweithredol Hidden Disabilities Sunflower
    ,

    Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Hidden Disabilities Sunflower hdsunflower.com