Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Angen mwy o weithredu ar newid hinsawdd gan y sector cyhoeddus yng Nghymru

10 Awst 2022
  • Mae adroddiad newydd yn darparu tystiolaeth bod angen cynnydd cyflymach ar ddatgarboneiddio

    Ar ôl i Gymru brofi tymheredd fyddai'n torri recordiau fis diwethaf, mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn amlygu pryder ynghylch a fydd uchelgais carbon sero net y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei gyflawni mewn pryd.

    Dyma'r ail adroddiad o'n hadolygiad sylfaenol o ddatgarboneiddio, a ofynnodd: 'Sut mae'r sector cyhoeddus yn paratoi i gyflawni uchelgais gyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus sero net erbyn 2030?

    Fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad cyntaf ar 14 Gorffennaf 2022, a oedd wedi’i anelu at uwch arweinwyr a'r rheiny sydd â swyddogaethau craffu mewn cyrff cyhoeddus, gyda'r nod o'u hysbrydoli i gynyddu cyflymder eu gwaith ar gyflawni uchelgais gyfunol 2030.

    Mae'r adroddiad tystiolaeth yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn darparu gwybodaeth a data manylach sy’n deillio o'n gwaith. Mae hefyd yn darparu enghreifftiau lleol o gamau sy'n cael eu cymryd gan gyrff cyhoeddus.

    Mae'r adroddiad yn cydnabod y camau cadarnhaol y mae cyrff cyhoeddus eisoes yn eu cymryd, ond er mwyn cyflawni’r uchelgais gyfunol mae angen cyflymu cyflymder camau newid.

     

    ,
    Dylai'r don wres ddiweddar ein hatgoffa bod tafluniadau hinsawdd Cymru yn dangos cynnydd mewn amlder a dwyster digwyddiadau tywydd eithafol. Nawr yw'r amser i weithredu, ac mae angen i gyrff cyhoeddus roi datgarboneiddio ar flaen y gad ym mhopeth maen nhw'n ei wneud. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030: Adroddiad Tystiolaeth

    View more