Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annog y cyhoedd i rannu eu profiadau o wasanaethau orthopedig fel rhan o astudiaeth newydd.
Orthopaedeg yw'r arbenigedd meddygol sy'n atal a chywiro anafiadau ac anhwylderau yn ymwneud â'r esgyrn, cymalau, a'r cyhyrau a'r gewynnau cysylltiedig
Bydd yr astudiaeth yn edrych ar effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn ar hyd a lled Cymru ac yn gwneud awgrymiadau i'r GIG yng Nghymru.
Ar gyfer yr astudiaeth, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn i gleifion gwblhau arolwg byr ar-lein.
Dywed y Rheolwr Prosiect Anne Beegan: "Mae'n bosib eich bod wedi derbyn triniaeth gan wasanaethau orthopedig os ydych wedi dioddef anaf chwaraeon, poen cefn, triniaeth ar gyfer esgyrn wedi torri, ailosod cymalau ac yn y blaen. Mae clywed am brofiadau pobl o'r gwasanaethau hyn yn bwysig iawn gan ei fod yn rhoi ffynhonnell gyfoethog o dystiolaeth am wir safon y gwasanaethau. Mae'r arolwg yn syml iawn i'w gwblhau a ni fydd gofyn i bobl roi eu henw."
Os ydych wedi derbyn triniaeth orthopedig yn y ddwy flynedd ddiwethaf, cliciwch ar y ddolen isod i lenwi ein harolwg byr - bydd yn cymryd rhwng 5 a 10 munud i'w lenwi.
Cymrwch ran yn yr arolwg [Agorir mewn ffenest neywdd] (Noder mae'r arolwg bellach wedi cau)
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Stephen Lisle ar stephen.lisle@wao.gov.uk neu 07815 955470.