Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Chwe bwrdd iechyd yn methu â chyflawni’r ddyletswydd i fantoli eu cyfrifon ymysg pwysau ariannol ehangach

08 Medi 2023
  • Mae’r gwaith o archwilio cyfrifon 2022-23 sefydliadau’r GIG wedi ei gwblhau. Mae ein teclyn data yn rhoi rhagor o wybodaeth ar sefyllfa ariannol sefydliadau’r GIG.

    Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi dod i’r casgliad bod un ar ddeg o’r deuddeg o gyfrifon sefydliadau’r GIG a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cyflwyno eu sefyllfa ariannol yn deg. Fodd bynnag, methodd chwech o’r saith Bwrdd Iechyd â chyflawni eu dyletswydd statudol i fantoli eu cyfrifon dros gyfnod o dair blynedd. O ganlyniad, mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi cynnwys amod yn ei farn ar reoleidd-dra ar gyfer y sefydliadau hynny gan fod methu â chyflawni’r ddyletswydd hon yn golygu bod y sefydliadau wedi gwario mwy nag y mae ganddynt yr awdurdod i'w wario. Mae’r tri Ymddiriedolaeth GIG a dau awdurdod iechyd arbennig wedi cyflawni eu dyletswydd i fantoli eu cyfrifon.

    Er i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr adrodd ei fod wedi cyflawni ei ddyletswydd i fantoli ei gyfrifon dros gyfnod o dair blynedd, ceir ansicrwydd o hyd ynghylch yr alldro a adroddwyd yn deillio o effaith gweddilliol yr amodau a’r gwallau nas cywirwyd yng nghyfrifon 2021-22. Yn sgil hyn, ni fu modd i’r Archwilydd Cyffredinol ddod i’r casgliad, ym mhob agwedd perthnasol, bod gwariant yn 2022-23 wedi ei ddatgan yn deg a rhoddodd amod ar ei farn ‘gwir a theg’ ar gyfer y Bwrdd Iechyd yn 2022-23. Rhoddodd amod hefyd ar ei farn ‘rheoleidd-dra’ oherwydd i'r Bwrdd Iechyd ysgwyddo gwariant afreolaidd a thorri ei gyfarwyddyd ariannol sefydlog wrth wneud taliadau i gyn aelod gweithredol interim o’r Bwrdd.

    Mae’r Archwilydd Cyffredinol, felly, wedi cynnwys amod i’w farn archwilio ar gyfrifon 2022-23 pob un o’r saith Bwrdd Iechyd.

    Cafodd y gwasanaethau iechyd yng Nghymru £9.894 biliwn o gyllid refeniw yn 2022-23, cynnydd o £131 miliwn mewn arian parod yn 2022-23 ond llai na’r cynnydd o £175 miliwn yn 2021-22. Gydag effaith chwyddiant yn codi, roedd y cynnydd i arian parod yn 2022-23 gyfystyr â gostyngiad termau real o 4.9% mewn cyllid (o’i gymharu â chynnydd termau real o 2.5% yn 2021-22).  Mewn cyfnod o bwysau sylweddol, mae cyfanswm y diffyg yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2022-23 wedi cynyddu i £150 miliwn (£47 miliwn yn 2021-22) ac mae’r gorwariant cronnol tair blynedd ar draws y GIG wedi cynyddu o £185 miliwn yn 2021-22 i £248 miliwn yn 2022-23.

    Mae’r gwariant ar staff asiantaeth wedi cynyddu’n raddol dros y pum mlynedd ddiwethaf, a bu cynnydd arall o 20% yn nhermau arian parod yn 2022-23, sy’n golygu bod y gwariant cyffredinol ar staff asiantaeth yn £325 miliwn ar draws GIG Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r gwariant yn talu am staff i weithio pan fo swyddi gwag ond mae rhywfaint o’r cynnydd yn cefnogi gweithgareddau ychwanegol.

    Yn gadarnhaol, cynyddodd yr arbedion a adroddwyd eto yn 2022-23, gan barhau â’r duedd a welwyd yn 2021-22, ond mae’n parhau i fod ar lefel is nag yn 2018-19. Fodd bynnag, mae cyfran yr arbedion a gyflawnwyd drwy gamau gweithredu untro, er enghraifft gohirio gwariant yn hytrach nag ysgogi arbedion, yn parhau i dyfu. Roedd arbedion untro yn 60% o gyfanswm yr arbedion a adroddwyd yn 2022-23 ac roeddynt yn fwy na’r arbedion cylchol am y tro cyntaf yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

    Bydd cynllunio strategol yn allweddol i gyflawni trawsnewidiad y GIG. O 2022-23, adferwyd y trefniadau cynllunio tair blynedd ar ôl eu hoedi oherwydd pandemig COVID-19. Mae sefydliadau bellach wedi eu symud yn ôl i gynllunio tair blynedd tymor canolig o’r cynlluniau blynyddol mwy ystwyth a ddefnyddiwyd yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa ariannol bresennol ynghyd â’r angen i ymdopi â phwysau ar wasanaethau yn golygu y bydd yn gynyddol anodd i sefydliadau’r GIG gynhyrchu cynlluniau ariannol mantoledig.

    Ceir rhagor o fanylion yn ‘Teclyn Data Cyllid GIG 2022-23’ a gyhoeddir heddiw. 

    ,
    Gostyngodd cyllid refeniw iechyd yn y GIG yng Nghymru mewn termau real yn 2022-23 ar adeg pan oedd y gwasanaeth yn parhau i wynebu'r heriau o fynd i'r afael ag ôl-groniadau ac ymateb i bwysau gwasanaeth ar unwaith a phatrymau galw newydd.  Er fy mod yn cydnabod graddfa’r heriau ariannol a gweithredol sy'n wynebu'r GIG, rwy'n pryderu am orfod cynnwys amod ar fy marn archwilio ar gyfrifon pob un o'r saith Bwrdd Iechyd. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn oherwydd eu bod wedi methu â chyflawni'r ddyletswydd statudol sydd mewn deddfwriaeth gan y Senedd, i fantoli eu cyllideb dros gyfnod o dair blynedd. Rhaid i'r pwyslais ar adfer ac ailfodelu barhau yn y flwyddyn bresennol a thu hwnt ond mae ein data yn cyfeirio at heriau parhaus y gweithlu, a cheir tystiolaeth o hyn yn y gwariant cynyddol ar staff asiantaethau, a'r angen i ddatblygu dull mwy strategol o drawsnewid gwasanaethau. Bydd angen i sefydliadau’r GIG ddefnyddio'r broses gynllunio tymor canolig sydd wedi'i hadfer i nodi llwybr sy'n gynaliadwy yn ariannol at adfer a moderneiddio gwasanaeth. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Offeryn Data Cyllid GIG Cymru - hyd at Mawrth 2023

    View more