Yna efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein rôl lleoliad gwaith!
Ynglŷn â'r lleoliad gwaith
Fel rhan o'ch lleoliad gwaith, byddwch yn ymuno â'n tîm archwilio ariannol ac yn cael hyfforddiant a chefnogaeth lawn i ennill profiad a gwneud gwaith yn ein Harchwiliadau Llywodraeth Leol a Thref a Chymuned.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig iawn sydd â phrofiad o weithio fel rhan o dîm ac sy'n gallu dilyn prosesau clir. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus sgiliau cyfathrebu rhagorol hefyd.
Pam ymuno â ni
Mae Archwilio Cymru yn lle hwyliog a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Mae gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol yn hollbwysig inni. Yn Archwilio Cymru, rydym heb os yn gofalu am ein pobl ac yn darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn gyflogwr balch o ran Teuluoedd sy'n Gweithio ac yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Mae ein lwfans gwyliau blynyddol hael, ein polisïau gweithio sy'n ystyriol o deuluoedd a hyblyg yn rhai o'r rhesymau pam ein bod yn lle gwych i weithio ynddo.
Rydym hefyd yn eiriolwyr dros ddatblygiad personol a phroffesiynol, a dyna pam rydym yn cynnig digonedd o gyfleoedd dysgu a datblygu, yn ogystal â darparu trwyddedau Dysgu LinkedIn i'r holl staff.
Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y byddant yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.
Darganfyddwch fwy
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rôl ar ein tudalen we swyddi gwag.