Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gallai adfywio gael ei gynyddu’n sylweddol gyda dull mwy systematig, ymyraethol a chydweithredol o ddatblygu tir llwyd

25 Ionawr 2024
  • Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar y rhwystrau niferus sy’n wynebu cynghorau a’u partneriaid, ond mae hefyd yn amlygu cyfleoedd i ddysgu o fannau eraill i helpu i oresgyn yr argyfwng tai trwy ddatblygu safleoedd nas defnyddir mewn modd cynaliadwy.

    Fe wnaethom archwilio sut y mae cynghorau Cymru’n rhoi cymorth ac anogaeth i ail-bwrpasu ac adfywio eiddo gwag a safleoedd tir llwyd yn gartrefi neu ar gyfer defnyddiau eraill.

    Gyda lefelau uwch o alw’n cael eu gosod ar adnoddau naturiol, mae angen i’r Llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol daro cydbwysedd rhwng ymdrin â’r galw am dai ar y naill law a mesurau diogelu’r amgylchedd ar y llaw arall i helpu i leihau effaith yr argyfwng hinsawdd. Unwaith y caiff tir ei ddatblygu, mae'n annhebygol y bydd byth yn cael ei droi'n ôl yn ddefnydd maes glas, gan gael effeithiau amgylcheddol ac economaidd o ganlyniad. Mae Llywodraeth Cymru felly’n hybu'r arfer o ddefnyddio tir a ddatblygwyd o’r blaen ac ail-bwrpasu adeiladau gwag, lle bynnag y bo'n bosibl.

    Fodd bynnag, mae datblygu safleoedd tir llwyd yn dwyn ei set ei hun o rwystrau. Er enghraifft, lle mae safleoedd mewn hen ardaloedd diwydiannol gall halogi a chostau adfer posibl wneud cost yn rhwystr, hyd yn oed os gwasanaethir y safle gan seilwaith, megis ffyrdd neu gyfleustodau. Mae hyn yn golygu bod datblygu’n aml yn dilyn cwys haws, gan fynd yn groes i bolisi cenedlaethol a chan gynyddu dibyniaeth ar safleoedd maes glas.

    Mae ein hadroddiad yn archwilio sut y mae cynghorau Cymru’n rhoi cymorth ac anogaeth i ail-bwrpasu ac adfywio eiddo gwag a safleoedd tir llwyd. Rydym yn canolbwyntio ar y rhwystrau sy’n wynebu cynghorau a’u partneriaid, ond rydym hefyd yn amlygu cyfleoedd i ddysgu o fannau eraill.

    ,
    Mae adfywio tir llwyd ac eiddo nas defnyddir yn anodd ond yn angenrheidiol er mwyn i ni osgoi problemau mwy i genedlaethau’r dyfodol. Mae angen i gynghorau a’u partneriaid ddefnyddio dull gwahanol er mwyn goresgyn y rhwystrau sylweddol i ddatblygu tir llwyd a chyrraedd y nodau sy’n ganolog i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Datblygu cynaliadwy? – gwneud y defnydd gorau o dir llwyd ac adeiladau gwag.

    View more